Diwrnod Agored Llwyddiannus!

Diolch am ddod

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Yn ddiweddar cynhaliwyd diwrnod agored (ac agoriad swyddogol!) Beics Antur, siop hurio beics Antur Waunfawr ym Mhorth yr Aur, Caernarfon.

Mae perthynas Antur Waunfawr gyda Chaernarfon yn un bwysig, a dechreuodd stori Beics Antur nôl yn 2014 pan ddaeth busnes Beics Menai dan adain yr Antur. Bryd hynny lleolwyd y busnes yn yr Hen Gei Llechi. Daeth yn amlwg yn fuan y byddai angen mwy o le yn y pendraw er mwyn manteisio’n llawn ar y cyfle a sicrhau fod amcanion yr Antur yn cael eu gwireddu.

Roedd yn bleser gwahodd Adam Hitchings i agor yr adeilad yn swyddogol. Adam yw Rheolwr Datblygu Cymru ar gyfer y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol. Gwaith y gronfa yw cefnogi cymunedau ledled y DU i ddod o hyd i ffyrdd newydd a mentrus i adfywio hen adeiladau.

Mae’r clip uchod yn rhoi blas ar y Diwrnod Agored.

Hoffai’r Antur achub ar y cyfle i ddiolch i a chydnabod yr arianwyr:

  • Y Gronfa Dreftadaeth Bensaerneiol
  • Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol
  • Sefydliad Garfield Weston
  • WCVA
  • Y Gronfa Gofal Integredig

A’r Partneriaid allweddol:

  • Galeri
  • GISDA
  • Cyngor Gwynedd
  • Ysgol Pendalar