Draenog yn docio yng Nghaernarfon!

Noson siopio hwyr a dathlu busnes lleol

gan Elliw Llyr
image-6
image-7

Lleolaid Draenog yn Doc Fictoria

Dewch draw am noson arbennig o siopa Nadolig yn Stiwdio newydd Draenog yn Doc Fictoria. Fydd yna gynigion arbennig ar gardiau cyfarch, siwmperi a phyjamas Nadolig, addurniadau a mwy. Diod am ddim a chroeso mawr i bawb.

Nos Fercher, 30 Tachwedd o 5yh tan 8yh yn bloc C yn y Doc.

Mae Draenog newydd ddwad nol o Qatar ac yn egluro bod symud o Gaerdydd yn fis Ebrill wedi bod yn brofiad braf oherwydd y croeso cynnes mae pobl Gaernarfon wedi ei roi. Maent yn edrych ymlaen at groesawu pobl dre’ i gartref newydd Draenog yn Doc Fictoria ac fod yna ‘amrywiaeth gwych o fusnesau annibynnol yn ardal Gaernarfon sy’n cefnogi ein gilydd a dwi’n falch iawn i fod yn fusnes bach Cymreig yn y dre’ medda perchnogion Draenog.