Pêl-droed yn “rhan o ddiwylliant” yr ardal, medd AS

Yr ASau lleol wnaeth noddi gêm ddiweddar Caernarfon yn erbyn y Drenewydd

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
CPDHawlfraint i CPD Tref Caernarfon

Siân Gwenllian AS yng ngêm Caernarfon yn erbyn Y Drenewydd 2 Rhagfyr

Mae Siân Gwenllian AS yn cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru, ac wrth i Gaernarfon fynd benben â’r Drenewydd yn ddiweddar, bu’n trafod pwysigrwydd pêl-droed yn yr ardal.

 

Ynghyd â’i chydweithiwr yn San Steffan, Hywel Williams AS, hi oedd yn noddi’r gêm a gynhaliwyd yn yr Ofal.

 

Yn ôl Siân:

 

“Roedd yn bleser noddi gêm Caernarfon yn erbyn Y Drenewydd yn ddiweddar, ar y cyd â Hywel Williams AS.

 

“Oherwydd cyfnodau clo Covid, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i gefnogwyr pêl-droed.

 

“Mae’r elfen gymdeithasol yn ganolog i’r gêm, ac mae presenoldeb cefnogwyr ar ochr y cae yn bwysig i’r chwaraewyr hefyd.

 

“Heb sôn am y baich ariannol o golli incwm tâl mynediad.

 

“Mae pêl-droed yn rhan bwysig o wead cymdeithasol a diwylliannol yr ardal hon, ac mae hefyd yn rhan hollbwysig o barhad yr iaith Gymraeg.

 

“Mewn trefi a phentrefi, mae pêl-droed yn cael ei chwarae ar lawr gwlad drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

“Mae’n bwysig ar gyfer iechyd y corff a’r meddwl, ond hefyd ar gyfer creu cymunedau hyfyw lle mae bwrlwm, a rheswm i bobl ifanc aros.

 

“Hoffwn ddiolch i CPD Tref Caernarfon am y gwahoddiad i noddi’r gêm.”