Dylan Morris yn canu yn yr Eagles

Noson llawn canu a hwyl

gan Elliw Llyr

Bydd Dylan Morris yn ôl nos Sadwrn yn canu yn yr Eagles, Caernarfon.

Roedd Cath, sydd yn cadw’r dafarn, yn awyddus i’w gael yn ôl ar dilyn llwyddiant y noson ddiwethaf roedd yno.

Dywedodd Dylan “Mae’r Eagles yn dafarn wych gyda awyrgylch gret a phawb yno mor groesawgar tuag ataf – dwi’n edrych mlaen i gal mynd yn ol nos Sadwrn am noson arall llawn canu a hwyl”.

Cofiwch am albym diweddaraf Dylan ’da ni ar yr un lon’

Cysylltwch hefo Cath ar Facebook The Eagles i gadw bwrdd.