gan
Osian Wyn Owen

Mae’r baneri i fyny ac mae Twthill yn barod am barti.
Rhwng 1 a 5 p’nawn ’fory (Awst 27) bydd Sgwâr Twthill yn llawn o weithgareddau i ddathlu cymuned arbennig Twthill.
Bydd miwsig byw, bingo, gwisg ffansi, pentra’r plant, castell bownsio, helfa drysor, peintio wyneb, bar a mwy yn hawlio sgwâr Twthlil am y diwrnod. Mae trigolion lleol yn cael eu hannog i ddod â phicnic efo nhw i’r ŵyl.
Ac heddiw mae’r trefnwyr yn cyhoeddi amserlen y diwrnod, yn ogystal ag ambell beth i’w cadw mewn cof. Dyma nhw:
13:00 Cyrraedd
13:30 Bingo, Helfa Drysor.
14:30 Alis Glyn
15:15 Ben Twthill a’r Band
16:00 Raffl
Cofiwch:
- Pres i brynu raffl
- Tynwch luniau
- Rhowch faneri yn eich ffenestri
- Dewch mewn gwisg ffansi
- Dewch â phicnic
- Dim gwydrau tu allan i’r Vaults, mae na wydrau plastig ar gael
Edrych ymlaen at eich gweld!