Hywel Williams AS yn camu o’r neilltu yn yr etholiad nesaf

Mae’n AS ers 2001

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
thumbnail_Hywel-Williams

Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros ArfonHywel Williams wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, ar ôl cynrychioli seddi Caernarfon (2001-2010) ac Arfon (2010-presennol) yn San Steffan ers 2001.

Wrth annerch aelodau lleol y Blaid mewn cyfarfod neithiwr, dywedodd Mr Williams ei bod wedi bod yn ‘anrhydedd ac yn fraint’ gwasanaethu pobl Arfon, a chyn hynny, etholaeth Caernarfon yn ystod ei gyfnod o dros ddau ddegawd fel AS.

Etholwyd Mr Williams i’r Senedd am y tro cyntaf yn 2001, gan olynnu Dafydd Wigley yn sedd Caernarfon. Cadwodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol 2005, gan ennill sedd newydd Arfon yn 2010 yn dilyn newid ffiniau. Ers hynny, mae wedi cadw y sedd i Blaid Cymru 6 gwaith mewn etholiadau San Steffan.

Mae Mr Williams yn uchel ei barch am ei waith ymgyrchu ar hawliau pobl anabl a bregus, ac am dros 20 mlynedd wedi bod yn llais pwerus dros wleidyddiaeth flaengar yn San Steffan, gan wasanaethu fel llefarydd y Blaid ar waith a phensiynau ers 2001.

Pleidleisiodd yn erbyn rhyfel Irac yn 2003 ac roedd yn ffigwr blaenllaw mewn ymgais i uchelgyhuddo’r cyn Brif Weinidog Tony Blair am gamarwain y Senedd ar yr achos cyfreithiol dros ryfel.

Mae wedi bod yn gefnogwr brŵd i achos y Cwrdiaid a bu hefyd yn Gadeirydd y Grŵp Aml Bleidiol ar Gatalunya.

Roedd yn amlwg fel aelod gweithgar o’r Pwyllgor Dethol ar Brexit. Bu hefyd yn Gadeirydd Panel Ymgynghorol y Llefarydd ar Weithiau Celf y Ty, ac yn aelod o Banel Cadeiryddion y Llefarydd am 10 mlynedd.

Dywedodd Hywel Williams AS:

 

“Ar ôl cryn feddwl a thrafod gyda fy nheulu rwyf wedi penderfynu peidio cynnig fy hun fel ymgeisydd i sefyll eto ar ran Plaid Cymru i fod yn Aelod Seneddol dros etholaeth Arfon.

“Bu gwasanaethu fel AS Caernarfon o 2001 ymlaen, gan ddilyn ôl troed Dafydd Wigley, un o gewri gwleidyddol Cymru, ac yna sefyll ac ennill sedd newydd Arfon yn 2010 yn fraint rhyfeddol.

“Roedd yn anrhydedd arbennig cael cynrychioli fy mro fy hun ym Mhwllheli a Rhoslan hyd nes newid y ffiniau yn 2010. Rwy’n hynod o ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gefais o’r cychwyn cyntaf gan gyfeillion a chymdogion ac aelodau’r Blaid yn Nwyfor.

“Bu sefyll yn Arfon wedyn, i ddod yn ail yn ôl y gwybodusion gwleidyddol, yn sialens enfawr, a hynny mewn cymunedau ble na fu AS y Blaid erioed o’r blaen.

“Ond bellach mae gan bobl Arfon Aelod Seneddol ac Aelod o’n Senedd dros Blaid Cymru, ynghyd â chriw mawr talentog ac ymroddedig o gynghorwyr sir a chymuned.

“Carwn ddiolch yn arbennig i’m teulu am eu cefnogaeth a’u hamynedd dros 21 mlynedd. Mae fy nyled yn fawr iawn i fy staff seneddol ymroddedig yng Nghaernarfon a Llundain, ynghyd a staff y Blaid yng Nghaernafon a Chaerdydd.

“Diolch hefyd i fy nghyd Aelodau Seneddol a’r tri a fu’n Aelodau o’r Cynulliad ac yna’r Senedd yn ystod fy nghyfnod, Dafydd Wigley, Alun Ffred Jones a Siân Gwenllian.

“Yn olaf, rwy’n diolch yn ddiffuant i bobl Dwyfor ac Arfon am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd ac yn gobeithio fy mod wedi talu yn ôl yn llawn am eu ffydd ynof.”

Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru Etholaeth Arfon, y Cynghorydd Elin Walker-Jones:

“Mae Hywel wedi gweithio’n ddiflino dros ei etholwyr a’r Blaid ers iddo gael ei ethol gyntaf yn 2001 ac mae’n ymgyrchydd diysgog dros gyfiawnder cymdeithasol. Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â Hywel ar nifer o faterion lleol dros y blynyddoedd diwethaf.

“Nid tasg hawdd yw sefydlu enw da i chi’ch hun yn San Steffan, ond mae Hywel yn sicr wedi llwyddo, gan ennyn parch eang ar draws y rhaniad gwleidyddol a bydd yn gadael gwaddol y gall y blaid a phobl Cymru fod yn falch ohoni.

“Ar ran y Blaid yn Arfon, estynnaf fy niolch diffuant i Hywel am ei wasanaeth cadarn i bobl Arfon a dymuno’r gorau iddo ar ei ymddeoliad.”

Dywedodd Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian:

 

“O’m cyfnod fel cynghorydd sir, fel ymgeisydd ar gyfer Senedd Cymru ac fel Aelod o’r Senedd, mae wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser gweithio gyda Hywel, gan hyrwyddo’r ardal ac ymgyrchu ar faterion allweddol rhag bygythiadau megis peilonau ar draws Y Fenai a bygythiadau difrifol i wasanaethau iechyd lleol.

“Mae Hywel wedi helpu i wneud Plaid Cymru yn rym pwerus dros gyfiawnder cymdeithasol yn San Steffan ac wedi bod yn gyson ymhlith lleisiau mwyaf blaengar a radical y Senedd.

“Mae Hywel wedi bod yn ffyrnig ac yn egwyddorol wrth ddwyn y Torïaid i gyfrif am y 12 mlynedd diwethaf, mewn gwrthgyferbyniad llwyr i fersiwn anaemig o wrthblaid gan y Blaid Lafur.

“Mae Hywel wedi bod yn llais lleol tosturiol a di-ofn dros yr ardal hon ers dechrau’r mileniwm. Rwan mae’n haeddu sefyll i lawr i dreulio amser o ansawdd gyda’i deulu. Ond byddaf yn gweld eisiau ei ddoethineb a’i gyfeillgarwch. Diolch o galon am bob dim Hywel.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: 

“Trwy gydol ei amser yn Nhŷ’r Cyffredin, mae Hywel Williams wedi bod yn ymgyrchydd diflino dros gyfiawnder cymdeithasol, gan roi llais i bobl fregus ac anabl, ac arwain y frwydr yn erbyn polisïau lles creulon San Steffan.

“Mae ei wybodaeth helaeth am faterion lles a’i gefndir mewn gwaith cymdeithasol wedi ei wneud yn gynghreiriad aruthrol yn yr ymgyrch yn erbyn anghyfiawnder ac anghydraddoldeb. Mae wedi bod yn AS etholaeth cydwybodol ac mae’n uchel ei barch ar draws y sbectrwm gwleidyddol.”

“Bydd grŵp Plaid Cymru San Steffan yn colli ei brofiad a’i ddoethineb – ond gwn y bydd ei gyfraniad gwerthfawr i’r Blaid yn parhau. Dymunaf y gorau iddo i’r dyfodol.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:

“Mae Hywel Williams wedi chwarae rhan enfawr yng ngwleidyddiaeth genedlaethol Cymru a gwleidyddiaeth Gwynedd fel ei gilydd, ac mae llawer ohonom – ym Mhlaid Cymru a thu hwnt – yn ei ddyled.

“Gellir cyfeirio at ei waith gyda’r iaith Gymraeg, ein hawliau ni fel dinasyddion yn wyneb bygythiadau Brexit, a hawliau’r Catalaniaid i annibyniaeth.

“Mae Hywel wedi dod ag ymagwedd meddylgar o ddyngarwch heddychlon i’w holl waith, a byddwn ni’n gweld eisiau ei ddoethineb, ei amynedd a’i hynawsedd.

“Rwyf yn bersonol ddiolchgar iddo am ei annogaeth gyson i ferched fentro i wleidyddiaeth.”

Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Marc Jones:

“Ar ran Plaid Cymru, rwyf am dalu teyrnged i flynyddoedd o deyrngarwch Hywel i’r Blaid ac ei ymgyrchu diflino ar ran pobl Arfon.

“Mae Hywel yn enghraifft o wleidydd o’r radd flaenaf, yn wir gynrychiolydd y bobl sydd wedi hyrwyddo achosion da drwy roi llais i’r di-lais.

“Rwy’n gwybod y bydd Hywel yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i’r Blaid a y bydd ei etholwyr yn parhau i gael Aelod Seneddol gweithgar hyd at yr etholiad nesaf.”