gan
Osian Wyn Owen
Mae casgliad yn cael ei drefnu o Feithrinfa Plant Parciau yn Griffith’s Crossing rhwng Caernarfon a’r Felinheli.
Bydd lori yn y feithrinfa fore dydd Mawrth nesaf yr 8fed o Fawrth, tan 12:00yp.
Mae’r trefnwyr yn pwysleisio mai bwyd yw ffocws y casgliad hwn, yn benodol y bwydydd sych canlynol:
- Pasta
- Reis
- Noodles
- Tuniau
- Cnau
- Hadau
- Cawl
- Bagiau tê
- Powdwr siocled
- Bisgedi
- Da dâs i’r plant
NODWCH: Ni ddylid cyfrannu bwyd mewn jariau gwydr neu mewn tiniau sy’n gofyn am agorwr tuniau i’w hagor.