Lansio Gŵyl Haf Twthill

27 Awst ar Sgwâr Twthill

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
299803123_10209240116277454

Mae Grŵp Cymunedol Twthill wedi cyhoeddi y bydd Gŵyl Haf Twthill yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni, ac mae rhagor o fanylion wedi eu rhyddhau.

Rhwng 1 a 5 y p’nawn ar Awst 27 bydd Sgwâr Twthill yn llawn o weithgareddau i ddathlu cymuned arbennig Twthill, y pentref o fewn tref Caernarfon!

Bydd miwsig byw, bingo, gwisg ffansi, pentra’r plant, castell bownsio, helfa drysor, peintio wyneb, bar a mwy yn hawlio sgwâr Twthlil am y diwrnod. Mae trigolion lleol yn cael eu hannog i ddod â phicnic efo nhw i’r ŵyl.

Yn ogystal â hynny, ar nos Wener 26 bydd Taith Gerdded o Hanes Twthill yn cael ei thywys gan Rhys Mwyn, yr hanesydd blaenllaw sy’n byw yn Twthill.

Yn ystod y dydd Sadwrn bydd y band newydd sbon danlli Ben Twthill a’r Band a Gwydion Outram yn diddanu’r gynulleidfa.

Er mwyn gwneud i’r sgwâr erdych fymryn yn fwy deniadol, mae’r Grŵp Cymunedol wedi gwneud cais am hen ddefnydd er mwyn creu bynting. Mae croeso ichi adael y defnydd yn y bocs ailgylchu pwrpasol y tu allan i Pencerrig ar stryd Dwyrain Twthill.

Gan edrych ymlaen yn arw at eich croesawu i’r ŵyl!