Mae grŵp cymunedol yng Nghaernarfon wedi lansio prosiect er mwyn ceisio mynd i’r afael ag unigrwydd yn yr ardal leol.
Cafodd Grŵp Cymunedol Twthill ei sefydlu y llynedd i drefnu digwyddiadau cymunedol a fyddai’n dod â “newidiadau positif” i’r ardal.
Yn sgil hynny, mae’r grŵp wedi trefnu sesiynau codi sbwriel misol, dathliad Nadolig a chystadleuaeth arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Ond bwriad eu prosiect diweddaraf yw mynd i’r afael ag unigrwydd yn yr ardal, sy’n debygol o fod wedi gwaethygu yn sgil y pandemig.
‘Cyfle gwych i ddod â phobol ynghyd’
Caiff Twthill, sy’n ardal arwyddocaol yn nhref Caernarfon, ei disgrifio fel cymuned “glos” ac “amrywiol iawn o ran oedran a chefndir.”
“Mae yna lawer o deuluoedd ifanc, pobol hŷn wedi ymddeol, a phobol sydd wedi’u geni a’u magu yma, sydd wedi byw yma ers dros 70 mlynedd,” meddai un o aelodau Grŵp Cymunedol Twthill.
“Mae’r amrywiaeth honno yn gryfder, ac er ei fod yn bwysig cynnal digwyddiadau cymunedol sy’n addas ar gyfer teuluoedd ifanc, mae’n bwysig peidio ag anghofio am ein cenhedlaeth hŷn.
“Mi welon ni fod grantiau’n cael eu cynnig gan Gyngor Gwynedd i fynd i’r afael ag unigrwydd, ac mi feddylion ni y byddai’n gyfle gwych i ddod â phobol ynghyd dros de prynhawn i hel atgofion am hanes cyfoethog Twthill.
“Bydd Te Bach Twthill yn gyfle i sgwrsio dros baned, cacen, a ’chydig o fiwsig.”
‘Cynyddu hyder’
Yn sgil darparu’r grant, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod nhw’n gobeithio rhoi hwb i hyder cymdeithasol, yn enwedig ymhlith pobol hŷn.
“Mae Cyngor Gwynedd wedi dyrannu grantiau bychain i grwpiau cymunedol ar draws Gwynedd er mwyn cynnal digwyddiadau cymdeithasol i’r to hŷn,” meddai.
“Bwriad y grant yw nid yn unig herio unigrwydd ac ynysigrwydd ond hefyd mae’n gyfle i glywed lleisiau pobl hŷn.
“Y gobaith yw bod hyn am alluogi rhai i ail afael yn eu bywydau cymdeithasol cyn Covid a chynyddu’u hyder i fedru fynd yn ôl allan.
“Rydym yn falch fod Grŵp Cymunedol Twthil yn un o’r grwpiau.”