Lle mae’r Tân?

Cyfweliad ecsgliwsif cyn i pizzeria newydd agor

gan Elliw Llyr
image-7
image-8
image-9
image-10

Pan rydych yn derbyn gwahoddiad i fynd i leoliad dirgel ar Stryd Palas i weld bwyty newydd a bar coctel ar noson oer yn y Gaeaf -pwy all wrthod!

5 Stryd Palas ydi’r cyfeiriad, byddai llawer i un yn ei gofio fel Medi gynt, lle fydd Tân yn tanio dechrau mis Ionawr.

Mewn cyfweliad ecsgliwsif mae John, perchennog Tân, yn datgelu eu bod am weini pizzas sydd o safon uchel hefo saws tomatos San Marzano,Fior Di Latte mozzarella a ’chydig o gaws gafr Cymraeg mae fama yn dipyn o fenter. Bydd y cynhwysion, popty Eidalaidd hefo tymheredd o 400 gradd ac gofal i bobi pizza fydd yn barod mewn 90 eiliad yn siwr o apelio.

Mae cadw gwaith yn lleol yn bwysig iddo, lle mae y tim yn creu y menus gan wneud yn siwr mai y pizzas sydd yn cael y sylw. Bydd dewis o pizzas hefo cig, llysiau a fegan ar gael.

Bydd coctêls fel Aperol Spritz, Bellini a Limoncello Lemon Drop a dewis o win coch, gwyn a Rosé o’r Eidal ac wrth gwrs Prosecco!

Bydd Tân ar agor Mercher i Sadwrn 5 tan 9 pm o ddechrau Ionawr gyda bwriad i agor yn hirach yn yr Haf, yn sicr, mae Napoli wedi cyrraedd Caernarfon!