17 mlynedd o Caergylchu

Sefydlwyd y ganolfan yn 2005

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
efor-gwastraff-cyfrinachol

Sefydlwyd canolfan ailgylchu defnyddiau Caergylchu fel partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd ac Antur Waunfawr yn 2005. Bydd pobol dre’n gwybod fod y bartneriaeth wedi creu cyfleon gwaith ac hyfforddiant i oedolion ac anableddau dysgu yn y maes ailgylchu.

Yn ogystal â thrin 15,000 tunnell o ddeunyddiau yma bob blwyddyn – mae Caergylchu yn ganolfan ar gyfer un o weithgareddau eraill Antur Waunfawr – llarpio papur. Mae Llarpio Antur yn rhan o deulu o fusnesau gwyrdd Antur Waunfawr.

Wrth ddefnyddio gwasanaeth llarpio cyfrinachol Antur, mae busnesau ledled y gogledd yn cefnogi unigolion gydag anableddau dysgu yn eu cymuned, yn cadw swyddi’n lleol, ac yn lleihau eu hôl-troed carbon. Mae Llarpio Antur yn dinistrio gwastraff cyfrinachol i fewn i stribedi 10mm i fusnesau ac unigolion yng Ngwynedd, Ynys Môn ac ar hyd arfordir y gogledd.

Maent hefyd yn ailgylchu papurau swyddfa gyffredinol sydd ddim yn gyfrinachol.

I ddysgu mwy am wasanaethau Llarpio Antur, cysylltwch heddiw.