Penblwydd Arbennig i Gwrs Sylfaen Coleg Menai

Mae’r Cwrs Sylfaen mewn Celf a gynigir ar gampws Coleg Menai ym Mharc Menai’n dathlu ei ben-blwydd yn ddeugain oed.

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
final-design-2
dathlu-2
dathlu1
CELF4
CELF3

Mae’r Cwrs Sylfaen mewn Celf a gynigir ar gampws Coleg Menai ym Mharc Menai’n dathlu ei ben-blwydd yn ddeugain oed.

Yn wreiddiol, roedd y Cwrs Sylfaen hwn, a lansiwyd yn 1981, yn cael ei gyflwyno gan sawl artist a dylunydd a oedd yn arfer eu crefft. Arweinydd y cwrs oedd Selwyn Jones, ac roedd y darlithwyr eraill yn cynnwys Paul Davies, Ed Davies, Phil Mumford ac Alan Brunsdon, yn ogystal â’r artist tirluniau, Peter Prendergast.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mab Peter, sef Owein Prendergast, sy’n arwain y cwrs ochr yn ochr â Miranda Millieur, Iwan Parry, Darren Hughes, Tim Williams a Helen Jones.

Oherwydd pandemig COVID-19, cynhelir yr arddangosfa ddathlu eleni, ac yn addas iawn, fe’i galwyd yn ‘40(+1) Celf Sylfaen Bangor Art Foundation’.

Cynhelir yr arddangosfa yn Storiel a Phontio ym Mangor, a bydd yn cynnwys gwaith 41 cyn-fyfyriwr nodedig – un artist i gynrychioli pob blwyddyn o fodolaeth y cwrs.

Bydd yr artistiaid a fydd yn arddangos eu gwaith yn cynnwys Ann Catrin Evans, Bedwyr Williams, Billy Bagilhole, Annie Atkins, Bethan Huws, Angharad Pierce Jones yn ogystal ag aelodau cyfredol o’r staff. Yn ogystal, cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau – dangosir ‘Shepherd’ gan Russell Owen, gyda sesiwn holi ac ateb yng nghwmni Russell yn Pontio, ddydd Mawrth, 1 Chwefror, dau weithdy gyda Jessie Chorley ar 10 ac 11 Mawrth yn Storiel, yn ogystal â sgyrsiau gan yr artist Bedwyr Williams a’r dylunydd ffasiwn, Luis Lopez Smith (dyddiadau i ddilyn).

Dywedodd Owein Prendergast, Arweinydd y Cwrs Sylfaen mewn Celf,

“Yn yr arddangosfa hon, a gynhelir ar y cyd rhwng Storiel a Phontio, ceir gwaith dros ddeugain o artistiaid a dylunwyr o’r rhan hon o Ogledd Orllewin Cymru sydd wedi mynd ymlaen i wneud cryn argraff ar y byd yr ydym yn byw ynddo. Yn ogystal, mae’n cynnwys gwaith gan y tîm addysgu presennol. Dim ond cipolwg yw hwn; mae miloedd o fyfyrwyr wedi camu dros drothwy’r Cwrs Sylfaen mewn Celf ym Mangor gan ddilyn eu llwybrau creadigol eu hunain. Byddai’n amhosibl dangos gwaith pawb, ond gobeithiwn fod y sioe hon yn cynrychioli’r meddylfryd y mae pawb ohonom sydd wedi dilyn y cwrs arbennig hwn yn ei rannu.”

“Rwy’n freintiedig fy mod yn dal yn rhan o’r cwrs yr wyf wedi’i arwain ers 1997, a byddaf yn fythol ddyledus i Ed Davies, Paul Davies, Phil Mumford, Alan Brunsdon a Peter Prendergast, a oeddynt oll yn artistiaid a arferai eu crefft. Mae hefyd yn bwysig sôn am Leslie Jones a Selwyn Jones a gafodd y weledigaeth wreiddiol a arweiniodd at sefydlu’r cwrs hwn.  Gwnawn ein gorau glas i arddel eu hethos gwreiddiol gyda’r un brwdfrydedd a thrylwyredd ag a wnaethpwyd pan ddaeth y cwrs i fod dros ddeugain mlynedd yn ôl. Gobeithiwn ein bod yn dal ati i newid bywydau pobl.”

Ychwanegodd Paul Edwards, Rheolwr Maes Rhaglen y Celfyddydau Creadigol,

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld arddangosfa 40(+1) y Cwrs Sylfaen yn Storiel a Phontio.  Mae’r rhestr o gyn-fyfyrwyr sydd wedi dilyn y Cwrs Sylfaen mewn Celf yng Ngholeg Menai yn un ragorol.  Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cymorth i ddwyn yr arddangosfa hon i ffrwyth, a diolch i’r staff sydd wedi gweithio’n ddiflino i greu’r rhaglen ardderchog hon o ddigwyddiadau”.

Meddai Manon Awst, Cydlynydd Creadigol Gofodau Cyhoeddus Pontio,

“Mae’r cwrs hwn wedi dangos y ffordd i gymaint o bobl greadigol yn yr ardal; mae’n wych gallu cynnal yr arddangosfa hon i ddathlu ei lwyddiant. Yn Pontio, rydym yn falch dros ben o arddangos gweithiau amlgyfrwng chwe artist – ffilm, cerflunwaith, llyfrau brasluniau a chomisiwn newydd sy’n benodol i’r safle. Mae’n gyfle gwych i gydweithio â Storiel”.

Yn ôl Delyth Williams, Swyddog Celfyddydau Gweledol Storiel,

“Rydym wrth ein boddau ein bod yn rhan o’r dathliad hwn sy’n nodi carreg filltir hynod ers sefydlu’r Cwrs Sylfaen mewn Celf ym Mangor ac o agor rhaglen Storiel am 2022 gyda’r arddangosfa arbennig hon. Mae’n gasgliad o waith celf cyffrous ac amrywiol.  Cynrychiola gweithiau’r 40+ a arddangosir nifer fwy o gyn-fyfyrwyr sydd wedi parhau i arfer eu crefft, gan ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd ym maes celf. Mae hyn yn tystio i lwyddiant yr unigolion eu hunain a’r cyfleoedd a gynigir ar y cwrs hwn yng Ngholeg Menai. Hoffem ddiolch i arweinydd y cwrs am ddod â’r cyfan at ei gilydd yn Storiel a Phontio”.

Bydd yr arddangosfa hon yn agored i’r cyhoedd o 22 Ionawr tan 2 Ebrill 2022.

Bydd y mynediad am ddim. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gynnal dathliad ar y cyd rhwng Storiel a Phontio (manylion i ddilyn) ar 4 Mawrth.

Sylfaen Celf Bangor 40+1

Mae gan adrannau celf Grwp Llandrillo Menai enw ragorol ac maent yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau eang ac arbenigol. Dysgir y cyrsiau galwedigaethol mewn stiwdios, gyda chymorth cyfrifiaduron Apple Mac pwrpasol a meddalwedd o’r un safon ag a geir mewn diwydiant.

Ceir cyfle hefyd i arbenigo mewn cyrsiau Celfyddyd Gain a Ffotograffiaeth ar lefel gradd, yn ogystal â’r cwrs MA newydd cyffrous mewn Celfyddyd Gain.

https://www.gllm.ac.uk/