Profiad Richard Jones ‘Yn Y Ffram’

Erthygl o brofiad gafodd Richard Jones ar y rhaglen S4C ‘Yn y Ffram’

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
F0EDE04A-FA68-43EE-850F

Dyma erthygl gan Richard Jones yn rhannu ei brofiad ar raglen ‘Yn Y Ffrâm’ ?

‘Ym mis Awst eleni, mi ges i alwad ffôn gan aelod o staff Cwmni Teledu Tinopolis yn Llanelli, yn fy ngwahodd i gymryd rhan mewn cyfres teledu o’r enw “Yn Y Ffrâm”

‘Roeddynt wedi gwahodd chwech o ffotograffwyr ar draws Cymru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth, lle ’roedd gofyn i ni dynnu lluniau o wahanol heriau i blesio dau feirniad profiadol iawn sef y ffotograffwyr Marian Delyth a Huw Talfryn Walters.

Cafodd y gyfres ei recordio yn llyfrgell Coleg Celf Abertawe, adeilad urddasol ac eiconic yn y Ddinas, dros gyfnod o chwech wythnos yn ystod Medi a Hydref.

‘Roeddem yn cael dwy her ar gyfer pob un o’r pedair rhaglen, un i’w chwblhau yn y Coleg a’r llall fel gwaith catref ar gyfer y rhaglen nesaf.

Yr her fwyaf oedd dod i arfer â gweithio o dan bwysau amser a chyda hyd at 5 camera yn recordio popeth oeddem yn ei wneud!

‘Roedd fy nhyd gystadleuwyr yn griw clen a chyfeillgar iawn, gyda pawb yn helpu eu gilydd trwy’r tasgau.

‘Roedd yn tasgau yn amrywiol a gwahanol iawn gan gynnwys tynnu lluniau pensaerniol, anifeiliad, bwyd a phobl. Cawsom lawer o hwyl yn yr her anifeiliaid – mi fues i’n lwcus iawn i gael tynnu llun iar, yn hytrach na nadroedd a draenogod (er i’r iar ymosod arnai wrth drio ei chael i sefyll o flaen y camera!)

Mi wnes i fwynhau’r profiad o gymryd rhan yn fawr iawn, a gwneud cyfeillion newydd oedd o’r un anian a mi – mi fyddwn yn trefnu i gyfarfod eto yn yr Haf i dynnu lluniau.

Deallaf bod bwriad i wneud cyfres arall – os cewch gyfle i gymryd rhan, ewch amdani ar bob cyfri – mae’n brofiad a hanner!

Diolch Richard ?

Gwylio’r Rhaglen ar S4C Clic Yn y Ffram

Gwefan Lluniau – https://richardj.picfair.com/ 

Facebook –Facebook – Richard Jones