Raffl yr Adfent Cronfa Caernarfon at Eisteddfod 2023

£500 o wobrau i’w hennill drwy ‘Raffl yr Adfent’ Cronfa Caernarfon at Eisteddfod Genedlaethol 2023

Lleucu Myrddin
gan Lleucu Myrddin
A8041D51-1810-4C56-93A4

Mae gwobr ariannol i’w hennill yn ddyddiol

Mae criw Cronfa Caernarfon at Eisteddfod Genedlaethol 2023 yn cynnal ‘Raffl yr Adfent’ er mwyn codi arian at yr achos.

Y bwriad yw cynnal raffl gyda gwobrau ariannol hael i’w hennill yn ddyddiol dros gyfnod yr adfent. Bydd gwerth £500 o wobrau i’w hennill i gyd! Bydd yr holl elw yn mynd at Gronfa Caernarfon Apêl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

Mae gan Caernarfon darged o £30,000 i’w godi at yr apêl cyn Awst 2023 er mwyn medru croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i Wynedd. Y gobaith o gynnal y raffl hwn yw codi arian heb ddibynnu ar haelioni busnesau’r dref sydd eisoes yn wynebu cyfnod anodd ar hyn o bryd.

Mae tocyn i gymryd rhan yn costio £10, a bydd ennillydd yn cael ei ddewis ar hap bob dydd. Gallwch brynu tocyn drwy PayPal yma neu drwy gysylltu â lleucumyrddin@yahoo.co.uk. Bydd angen prynu tocyn erbyn y 30ain o Dachwedd er mwyn cael y cyfle i ennill y wobr gyntaf ar y 1af o Ragfyr ymlaen.

Bydd mwy o weithgareddau codi arian yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf, felly dilynwch dudalen Facebook y gronfa i glywed mwy amdanynt.