Tafarn Ty’n Llan yn Croesawu Cwsmeriaid

Croeso Cynnes gan Reolwraig Bar Newydd Tafarn Ty’n Llan – Catrin Jenkins

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
B96FC68E-69A1-45AE-B013
52E21FD9-E379-445E-A133
75B85E8F-E4D2-458D-B1D8
BA0BF9C2-8AD7-4C99-96AC
A863AC86-7549-4CD4-BC61

Llongyfarchiadau i Ty’n Llan, Llandwrog – Menter Gymunedol sydd wedi llwyddo i achub ac ail-agor tafarn.

Mae’r gymuned wedi gweithio mor galed, ac o’r diwedd, mae’r tafarn wedi ail agor ei drysau! ?

Mae hi wedi bod yn ‘all go’ ers cyn y Nadolig gyda criw gret hwyliog o wirfoddolwyr yn sandio, peintio, glanhau, a paratoi yn gyffredinol i sicrhau fod y dafarn yn barod i groesawy cwsmeriaid.

Yn dilyn llwyddiant y Menter i sichrau cyllideb sydd wedi ei gyhoeddi eisioes gan Golwg360.

Mae’r drysau bellach wedi agor a cefais y cyfle i holi a dwad i adnabod Rheolwraig Bar newydd Ty’n Llan – Catrin Jenkins – yn ferch o’r pentref a wedi treulio ei phlentyndod yn tyfu fyny tafliad carreg o Ty’n Llan mae hi y Rheolwraig perffaith i’r swydd.

Mynychodd ysgol gynradd Llandwrog, ymlaen i ddatblygu ei addysg yn Syr Hugh Owen, Caernarfon cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd mewn dawns ym Mhrifysgol Gaer.

Mae Catrin wedi gweithio i TUI Holidays yn Ewrop dros y 5 mlynedd diwethaf fel Hyfforddwraig Ffitrwydd ond profodd Cofid i gael effaith ar ei gwaith felly dychwelodd gartref i Llandwrog a pan ddaeth y cyfle i reoli bar Ty’n Llan cymerodd Catrin y cyfle yn syth i fynd amdani. ‘Gwneud synnwyr fel merch o’r pentref’.

Sut deimlad oedd hi ail agor drysau Ty’n Llan Catrin? ‘Lot fawr o waith ond cyffrous iawn. Gret gweld y gymuned yn dod at ei gilydd er mwyn helpu i llnau, peintio, neud man waith trwsio ayyb. Hefyd gret gweld busnesau lleol wedi ei cefnogi i gael pethau yn barod.’

Oes cynlluniau ar y gweill tymor byr / hir?
‘Dal i redeg y lle fel bar gwlyb ydi’r cynllun byr dymor a rhoi cais cynllunio fewn er mwyn adeiladu estyniad ar gefn yr adeilad gyda bwyty. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i ddatygu gwely a brecwast yma. Lot o waith yn mynd ymlaen ‘behind the scenes’ i lewni a chyflwyno ceisiadau grant fewn hefyd.’

Faint o bobl gefnogodd yr ymgyrch i godi yr holl arian? 
‘Mae dros 1000 o aelodau o wahanol lefydd rownd y byd ond nifer helaeth yn lleol. Da ni ddim yn ‘actually’ gwybod os ydi nhw wedi bod draw eto ond mae’r wythnosau cyntaf wedi bod yn brysur iawn gyda llawer o’r pentref a’r ardal leol yn cefnogi sydd yn wych i weld a dwi yn mwynhau cyfarfod a chroesawy pawb wrth iddynt ddwad trwy’r drws’

Manylion Cyswllt:

? post@tynllan.cymru

? 01286 875827

Facebook: https://www.facebook.com/TynLlan/

Instagram:https://instagram.com/tyn.llan

Oriau Agor Arferol:

Iau: 18.00 – 23.00

Gwener: 10.30 – 23.00

Sadwrn: 14.00 – 23.00

Sul: 14.00 – 18.00

Rheolau Diogelwch Cofid

Wrth i reolau newydd Llywodraeth Cymru ddod i rym, dyma nodyn i gadarnhau beth fydd y trefniadau yn Ty’n Llan er mwyn cadw y staff a chwmseriaid yn ddiogel:

❗GWASANAETH BWRDD YN UNIG
❗DIM MWY NA 6 I BOB BWRDD (oni bai eich bod chi’n dŷ o fwy na 6)
❗OLRHAIN CYSWLLT (llenwch y cofnod papur)
❗GWISGO ORCHUDD GWYNEB (wrth godi o’ch bwrdd neu wrth symud o gwmpas y dafarn)
❗DEFNYDDIO DDIHEINTYDD DWYLO (mae digonedd ar gael o gwmpas y lle)
❗YSTYRIED WNEUD PRAWF LLIF UNFFORDD cyn ymweld â Ty’n Llan.

Er nad yw pawb yn cytuno gyda phob un o’r rheolau hyn, maent yn orchymyn gan Lywodraeth Cymru ac felly bydd Ty’n Llan  yn cydymffurfio gyda’r argymhellion yma yn llawn.

Felly ewch draw i gefnogi Tafarn Ty’n Llan…

Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl gan Catrin dros beint neu goffi!

Cefnogwch Fusnesau Lleol ?