Taith beic i hel arian

Salwch MND ac ei effaith ar deuluoedd

gan Elliw Llyr
131B4C25-4CC6-4961-B12E

Beicwyr ar gychwyn y daith

Gyda Newyddion S4C heno yn sôn am alw i gael adnodd ymchwil Cenedlaethol yng Nghymru i salwch Motor Neurone Disease (MND) dyma gyfle gwych i sôn am ddyn lleol o Gaernarfon oedd ar y cae rygbi yn Stadiwm Principality dydd Sadwrn diwethaf oedd yn rhan o dîm wnaeth reidio beic o Gaeredin i Gaerdydd erbyn cychwyn y gêm rygbi.

Bu i Wyn, Wyn Trefor Jones, sydd yn drwna yng Nghaernarfon, gymryd rhan yn elusen MND Doddie Weir. Maent wedi casglu £236,875 yn barod ac os hoffech gyfrannu, cewch wybodaeth yma. 

Maent yn credu yn gryf, hefo ymchwil, bod triniaeth yn bosib a gyda chefnogaeth yn cael ei roi gan y Sefydliad i gefnogi dioddefwyr ewch ati i roi rhodd, pa mor bynnag maint eich cyfraniad, bydd o help mawr i’r gwaith pwysig hwn.