Timmy Mallet yn Beics Antur!

Daeth y cyflwynydd teledu draw i’r siop yn Dre

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
unnamed-file

Yn ddiweddar daeth Timmy Mallett, y cyflwynydd teledu sy’n adnabyddus am ei grysau lliwgar a’i forthwyl pinc comic draw i Beics Antur ym Mhorth yr Aur.

 

Un o fusnesau gwyrdd Antur Waunfawr ydi Beics Antur wrth gwrs, ac mae’n rhan o rwydwaith ehangach sy’n darparu cyfleoedd gwaith ac hyfforddiant i oedolion ag anableddau dysgu.

 

Datblygwyd y safle’n ganolfan Iechyd a Lles, ac mae’n cynnwys siop llogi beiciau, gweithdy trwsio beics, llofft llesiant ac ystafell sensori. Roedd yn brosiect gwerth £1 miliwn.

 

Mae Timmy Mallet yn adnabyddus iawn i rai cenhedlaethau, a hynny am ei waith ym myd teledu, cerddoriaeth, a sioeau llwyfan, yn ogystal â bod yn artist.

 

Ond un peth nad oes llawer o bobol yn ei wybod am Timmy Mallet ydi ei fod o’n feiciwr brwd.

 

Yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf mae wedi reidio ei feic trwy Ogledd Iwerddon, Swydd Lincoln, a Cumbria. Yn 2018, ag yntau wedi’i ysbrydoli gan ei frawd hŷn sydd â syndrom Downs, beiciodd o’i gartref yn Lloegr trwy Ffrainc a Sbaen ar hyd y Camino de Santiago i Santiago de Compostela Finisterre ac yn ôl, pellter o dros 4000 km.

 

Ond pwy sydd isio gwledydd Ewropeaidd ecsotig pan mae gynnoch chi Gaernarfon? Daeth Timmy draw i siop feiciau Antur Waunfawr ym Mhorth yr Aur yn ddiweddar, ac mae’r llun ohonno â rhai o staff ac unigolion Antur Waunfawr yn llun i’w drysori!