Warws Werdd ar agor!

Mae’r siop wedi bod ar gau ers dwy flynedd

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae’r siop, sy’n cynnig cyflogaeth i oedolion ag anableddau dysgu yn agor ei drysau i’r cyhoedd ar ôl dros ddwy flynedd

Ers bron i ddau ddegawd, mae’r Warws Werdd wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i gwsmeriaid sy’n chwilio am ddodrefn ac offer ail law am brisiau rhesymol ar gyfer eu cartrefi.

Mae prosiect ailgylchu dodrefn a dillad y Warws Werdd wedi’i leoli ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, ac maent yn gwerthu amrywiaeth o ddodrefn a dillad ail law am brisiau isel.

Fe’i sefydlwyd yn 2004, ac mae’n rhan o deulu o fusnesau Antur Waunfawr, ac yn ogystal â gwerthu ystod eang o ddodrefn ail law am brisiau fforddiadwy, maent hefyd yn stocio amrywiaeth o ddodrefn newydd “diwedd-y-tymor” o siopau’r stryd fawr.

Ond fel yn achos nifer o sefydliadau eraill, roedd y pandemig yn ergyd drom i Antur Waunfawr. Oherwydd natur y gwaith y maent yn ei wneud, yn cynnig cyfeloedd cyflogaeth, gwirfoddoli, a lles i oedolion ag anableddau dysgu, bu’n rhaid i Antur Waunfawr fod yn arbennig o ofalus ac ymwybodol o’r risgiau posibl i iechyd yr unigolion.

Roedd hynny’n golygu, yn wahanol i’r rhan fwyaf o siopau eraill, fod y Warws Werdd wedi’i chau i’r cyhoedd am ddwy flynedd gyfan.

Ond mae’r fenter gymdeithasol yn edrych tuag at y dyfodol ac yn edrych ymlaen i groesawu pobol yr ardal yn eu holau.

Warws Werdd, Stad Cibyn, Caernarfon, LL55 2BD