Lle ydan ni?

Mae’r Warws Werdd ar agor eto!

Warws Werdd
gan Warws Werdd

Efallai nad oes nifer ohonoch chi’n gwybod ond mae’r Warws Werdd ar agor eto!

Fel y rhan fwyaf o siopau nad ydyn nhw’n angenrheidiol, roedd yn rhaid i Warws Werdd gau ei drysau’n ôl yn Mawrth 2020, ond yn wahanol i siopau eraill roedd yn rhaid i ni barhau ar gau am gyfnod hirach, oherwydd natur ein gwaith yn cefnogi unigolion bregus.

Ond mae’r siop, sy’n gartref i brosiect ailgylchu dodrefn a dillad ar Stad Cibyn yn Dre bellach yn ôl ar agor.

Bydd nifer ohonoch heb fod draw i’r Warws Werdd ers blynyddoedd felly rydan ni wedi cynhyrchu fideo byr yn eich atgoffa o lle’r ydan ni ar Stad Cibyn.

Byddai’n grêt eich croesawu draw rhwng 10-4 rhwng dydd Llun a dydd Gwener.