Ynys Alys – blas i aros pryd

Mae tocynnau ar ôl yn y Galeri

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Ynys Alys, cynhyrchiad Frân Wen sy’n dilyn merch ifanc a’i hannibyniaeth newydd wrth iddi adael ei chartref am y tro cyntaf yng Nghaernarfon ddydd Iau.

 

Mae’r cynhyrchiad yn gymysgedd o theatr, cerddoriaeth bop, a rap, ac mae’r gerddoriaeth wedi cael ei chyfansoddi a’i pherfformio’n rhithiol gan yr artist rap Lemarl Freckleton a Casi Wyn.

Echdoe, rhyddhawyd fideo gerddoriaeth y gân Rhywbeth Mwy i Ddod o Ynys Alys, a hynny ar Lŵp. Ond mae’r fideo’n cael ei rannu heddiw ar wefan Caernarfon360 fel blas bach i’r ddarllenwyr cyn perfformiadau ddydd Iau.

Mae tocynnau ar ôl ac ar gael ar wefan Galeri Caernarfon.