Zambia 2022

Steffan Nicholas

gan Steffan Nicholas
2484B431-2B09-423D-AE79
05095250-34E1-4301-A6C6

Ar ddechrau gwyliau’r haf eleni, aeth criw o 16 ar ymweliad i Zambia – gwlad sydd â chysylltiad agos iawn ag Ysgol Syr Hugh Owen. Wedi dwy flynedd o orfod gohirio ac aildrefnu, roedd pawb yn fwy na pharod am antur! Chawsom ni ddim ein siomi!

Ers 20 mlynedd bellach, mae Ysgol Syr Hugh Owen wedi cynnal perthynas gref â phentref Mkushi yng nghanolbarth Zambia. Mae sawl criw o ddisgyblion (tua 300 o ddisgyblion erbyn hyn) ac athrawon wedi cael y cyfle i ymweld â’r Itala Foundation a chynorthwyo mewn sawl ffordd e.e. adeiladu, peintio a hyd yn oed addysgu disgyblion yr ardal. Mesur o lwyddiant ysgubol y prosiect yw bod oddeutu 1700 o blant mynychu’r ysgol ac yn derbyn eu haddysg gan griw cymharol fach o athrawon cymwysedig, sydd weithiau yn dysgu dosbarthiadau o dros 70 o blant!

Mr Tony Foster a Mr Adam Williams yw’r ddau sy’n gyfrifol am sefydlu’r ysgol ym Mkushi wedi iddynt sgwrsio â dyn lleol, Albert Mwansa, a oedd yn dysgu plant y pentref mewn adeilad di-do.  Dywedodd mai ei freuddwyd oedd adeiladu ysgol yn y pentref a gweld ei blant a thrigolion yr ardal yn derbyn addysg o’r radd flaenaf. Cawsant ganiatâd i adeiladu ac ers hynny mae Ysgol Syr Hugh Owen wedi bod trefnu ymgyrchoedd i godi arian ac ymweliadau er mwyn datblygu’r Itala Foundation.

Gweler llun o’r broses adeiladu.

Yn ystod yr ymweliad bythgofiadwy yma, treuliwyd diwrnod yng nghartref plant amddifad Mkushi yn sgwrsio, chwarae ac yn gweini bwyd i’r plant. Yn ogystal, cafwyd cyfle i ymweld â’r uned geni yn yr ysbyty lleol. Bu pawb yn casglu rhoddion i’w rhannu yn y lleoliadau hyn ac fe’u gwerthfawrogwyd yn arw, felly hoffem ddiolch i bawb am eu cyfraniadau. Diolch o galon i adran Addysg Gorfforol Ysgol Syr Hugh Owen, Dafydd Roberts a Chlwb Rygbi Caernarfon, Ysgol Llangefni, Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe ac i ffrindiau am eu rhoddion hael.

Manteisiwyd hefyd, ar y cyfle i brofi rhai o ryfeddodau’r cyfandir gan gynnwys Mosi-oa-Tunya (Rhaeadr Victoria), dawnsio traddodiadol, teithiau saffari a gwersylla ym Mharc Cenedlaethol Chobe, Botswana yng nghanol bywyd gwyllt. Cawsom brofiadau amhrisiadwy – braint a phleser llwyr oedd yr ymweliad o’r dechrau i’r diwedd. Diolch arbennig i Tony Foster, Adam Williams a Sioned Glyn am drefnu taith mor wych.