Twrnament Pêl-droed

Timoedd lleol yn helpu hel pres at Steddfod

gan Elliw Llyr
image-11

Dewch i’r Oval ar 30 Ebrill i weld 4 Tîm Lleol yn cystadlu mewn gem pêl-droed er mwyn hel pres at Steddfod Llŷn ac Eifionydd.

Bydd Tîm C.L. Jones, Cwmni da, Tim Staff Ysgol Syr Hugh Owen a Tîm hogia 5 a side sy’n cynnwys ambell selebs lleol yn cystadlu am Tîm Pêl-droed Lleol Caernarfon Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Bydd Geth a Ger yn sylwebu a Siân Beca yn cyflwyno a chadw trefn ar y diwrnod!

Bydd y gêm yn cychwyn am 1 y pnawn gyda thâl mynediad o £1 i blant dan 16 oed ac £2 i oedolion.

Dewch draw i gefnogi.