Bwyd da Tŷ Winsh

Caffi yn falch o gael canmoliaeth

gan Elliw Llyr
image-1
image-3

Panad hyfryd gan ddefnyddio coffi lleol

image-1

Un o ddanteithion Tŷ Winsh

image

Diwrnod prysur yn y Caffi

Mae Caffi Tŷ Winsh wedi cael eu cynnwys ar restr Bwyty Guru 2023 ar ôl derbyn adborth uchel gan eu cwsmeriaid. Roeddynt wedi eu henwi yn 10 uchaf gan Fwyty Guru yn dre yn ddiweddar.

Mae bod yn agos at bobl leol yn bwysig iawn i Marek a’i dim sydd yn rhedeg y caffi. Maent yn gwerthu a defnyddio cynnyrch lleol fel jam a choffi ac yn annog pobl leol â chwmnïau i alw yn y caffi. Gyda dewis o frecwast, cinio panad â chacen neu far granola mae digon o ddewis ar gael.

Maent yn gobeithio gweithio hefo Llwybr Llesiant yn fuan er mwyn annog pobl i wirfoddoli hefo nhw yn y Caffi.