Gwahoddiad Utopias Bach yn y Galeri

Ymunwch hefo ni yn Galeri, 2 Mehefin am 6 o’r gloch i weld arddangosfa celf a lluniau

gan Elliw Llyr
image-1

Creu hefo Utopias Bach

image-4

Un o luniau Utopias Bach

Mae gwaith detholedig tair blynedd yn cael ei agor gan Utopias Bach yn Galeri gan eich gwahodd i archwilio ac ymateb i bedair thema o:

  • Dychmygu Radical
  • Sylwi
  • Gwneud Tylwyth
  • Arallweddu

Mae Utopias Bach yn brosiect celf a grëwyd gan y rhai sy’n cymryd rhan, ac sy’n agored i bawb. Mae brosiect aml-gyfryngol sy’n mynd i’r afael ag ansicrwydd ein byd wedi’r cyfnod clo, gan archwilio sut y byddwn yn wynebu difrifoldeb llethol ein sefyllfa wedi COVID, gan gynnwys materion newid hinsawdd a chwymp ein hecosystem.

Rydym yn eich gwahodd i ailfeddwl Utopia fel un sydd wedi’i wreiddio yn ei le, wrth dyfu cysylltiadau ledled y byd. Rydym yn eich gwahodd i ddychmygu a rhoi cynnig ar bethau bach a allai mewn rhyw ffordd helpu i greu lle gwell i bobl o bob math (dynol a mwy na dynol), yn enwedig y rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan gyflwr y byd.

Pa Ffordd well i ddathlu bron i dair blynedd o waith. Mae croeso cynnes i bawb alw, bydd yr arddangosfa yno tan ddiwedd Gorffennaf.