Fel rhan o ddathliadau Wythnos Dathlu Gwirfoddolwyr (1-7fed o Fehefin) roedd Mantell Gwynedd yn cynnal digwyddiad i ddathlu a chydnabod gwaith gwrifoddol ar draws Gwynedd ym Mhortmeirion. Un aeth draw i dderbyn y wobr o gydnabyddiaeth cyfraniad arbennig oedd Nici Beech ar ran Pwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon.
Wrth gyflwyno’r wobr nododd Carwyn Humphreys, Mantell Gwynedd, ei fod yn ymwybodol o’r holl waith gwirfoddol blynyddol sydd yn digwydd ar gyfer Gŵyl Fwyd Caernarfon a diolchodd yn arbennig i’r 80 o wirfoddolwyr fuodd wrthi yn ystod yr ŵyl eleni. Nododd Bethan Williams, Prif Swyddog Mantell Gwynedd hefyd ei diolch i bob gwirfoddolwr sydd yn rhoi gymaint ar draws Gwynedd trwy’r flwyddyn.
Roedd y cais cyfraniad arbennig yn nodi holl waith Nici, Eleri a gweddill y pwyllgor nid yn unig ar ddiwrnod yr ŵyl ond hefyd trwy’r flwyddyn yn trefnu amryw o ddigwyddiadau ar draws Caernarfon.
Mae gwirfoddoli yn rhoi pleser i fi yn bersonol i deimlo yn rhan o rhywbeth sydd yn gwneud gwahaniaeth i’r dref.
Nododd Nici yr uchod fel un o’r rhesymau pam y mae’n dewis gwirfoddoli i Ŵyl Fwyd Caernarfon yn ôl Nici. Mae Nici yn Gadeirydd i’r Ŵyl ac yn gweithio’n ddi-flino ynghŷd â sawl aelod arall o’r pwyllgor i sicrhau llwyddiant yr ŵyl.
Mae galwad arbennig hefyd eleni i unrhyw un sydd â diddordeb bod ynghlwm â’r trefniadau neu i fod ar bwyllgor yr ŵyl ddod draw i gyfarfod agored ar y 26ain o Fehefin. Mae croeso cynnes i unrhyw un a ni fyddwch yn ymrwymo i ddim wrth fod yn bresennol ond cewch gyfle i glywed mwy a gweld os yw gwirfoddoli neu helpu’r ŵyl o ddiddordeb i chi!
Dewch draw i Institiwt, Caernarfon ar y 26ain o Fehefin am 6yh! Croeso cynnes i bawb!