Hoff Ganeuon Huw Chiswell

Ydych chi wedi ystyried pa rai yw hoff ganeuon Huw Chiswell? Dyma’r noson i chi!

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Dewch draw i’r Galeri am noson yng nghwmni Huw Chiswell!

Dyma ddigwyddiad arall sydd wedi’i drefnu i’r ardal gan Gronfa Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd – ac yn sicr nid yw’n ddigwyddiad i’w fethu! Nid yn unig cawn y cyfle i glywed 15 o’i hoff ganeuon cawn yr hanes y tu ôl i bob un ohonynt.

Bydd Huw Chiswell yn rhannu ei hoff ganeuon a’u perfformio mewn noson arbennig ym mis Ebrill. A fydd y clasur ‘Y Cwm‘ ymhlith y 15 uchaf? Beth am Parti’r Ysbrydion neu Rhy Hwyr? Efallai bydd hi’n gân llai adnabyddus a bydd yn braf clywed sut y mae’n hawlio ei lle yn y 15 uchaf gan y cerddor ei hun. Bydd rhaid i chi fod yn y gynulleidfa i wybod pa ganeuon sydd yn hawlio’i lle! Pa un yw eich hoff gân chi?

Mae dros hanner y tocynnau wedi’i gwerthu yn barod felly ewch ati i brynu tocyn ar unwaith os oes diddordeb gennych chi!

Hoff Ganeuon Huw Chiswell (galericaernarfon.com)

I ddilyn hanes Cronfa Caernarfon a chlywed am fwy o ddigwyddiadau edrychwch ar y dudalen yma: Cronfa Caernarfon Eisteddfod 2023 | Facebook