Llety Arall yn barod am dymor gwyliau newydd

Y fenter gymunedol yn cyhoeddi gwefan newydd

Llety Arall
gan Llety Arall

Mae Llety Arall yn cyhoeddi lansio ei wefan newydd, gan gynnig cyfle i gwsmeriaid brofi llety unigryw dafliad carreg o Barc Cenedlaethol Eryri. Wedi ei leoli yng Nghaernarfon, mae Llety Arall yn falch o gynnig blas go iawn ar ddiwylliant a lletygarwch Cymreig yng nghanol tref Gymreiciaf Cymru.

Wrth baratoi i groesawu gwesteion yn 2023, mae’r llety yn gobeithio cynnig profiad ar-lein gwell a’i gwneud hi’n haws i bobl archebu a dysgu am y lleoliad a’r ardal gyfagos.

Dywedodd Menna Machreth, cadeirydd Llety Arall: “Rydym yn falch iawn o lansio’n gwefan newydd ac yn hyderus y bydd yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei angen ar westeion i wneud y mwyaf o’u hamser yma gyda ni. Rydym yn annog cwsmeriaid i ymweld â’r wefan newydd ac i ddechrau cynllunio eu hymweliad.”

Mae’r wefan yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion i roi cymorth i ymwelwyr ddysgu am Llety Arall a chynllunio aros yn nhref hanesyddol Caernarfon. Mae’r rhain yn cynnwys manylion ystafelloedd a chyfleusterau; gwybodaeth am y lleoliad ac atyniadau cyfagos, system archebu ar-lein hawdd a galeri i gynnig cipolwg o’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn ystod arhosiad.

Mae Menna’n ychwanegu: “O’r cychwyn roedden ni eisiau cynnig profiad Cymreig yma yn Llety Arall a’r nod heddiw, fel yr oedd pan wnaethon ni agor ydi gweithredu mewn modd cynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar. Wedi ein leoli yng nghanol y dref, mae bod yn rhan o’r economi leol yn bwysig i ni hefyd. Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig profiad croesawgar i’n gwesteion i gyd, ac yn falch o allu rannu’n gwefan newydd gyda’r byd.”

Llety annibynnol yw Llety Arall sy’n cynnig arhosiad unigryw i westeion a’r cyfle i brofi’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn uniongyrchol. Sefydlwyd y llety yn 2017 yn fenter gymunedol er budd y gymuned ac mae’n eiddo i’w haelodau.