gan
Osian Wyn Owen

Geth, un o wirfoddolwyr 2022
Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn brin o wirfoddolwyr ar gyfer diwrnod yr ŵyl ar 13 Mai.
Wrth i’r dyddiad agosáu, mae’r trefnwyr yn galw ar bobl leol i wirfoddoli dwy awr o’u hamser ar ddiwrnod yr ŵyl.
Byddwch yn gwybod bod yr ŵyl yn cael ei threfnu’n gyfan gwbl gan bobol leol sy’n rhoi o’u hamser eu hunain. Yn syml, fyddai cynnal yr ŵyl ddim yn bosib heb wirfoddolwyr.
Tydi’r ŵyl ddim yn gofyn gormod o’n gwirfoddolwyr, a’ch prif ddyletswydd fyddai dosbarthu rhaglenni a chasglu cyfraniadau.
Rydan ni’n annog trigolion lleol sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i lenwi’r ffurflen hon.
Am y tro olaf, plis, a diolch!