Pwysigrwydd Gwasanaethau Lleol

Ambiwlans Awyr yn glanio ar Segontiwm 

gan Elliw Llyr

Cafodd yr hofrennydd Ambiwlans Awyr ei galw gan lanio ar Gaer Rufeinig Segontiwm dydd Iau, 13 Ebrill.

Roedd hyn yn dilyn damwain pan gafodd geneth ei tharo mewn stryd gyfagos. Yn lwcus, bu iddi allu teithio yn yr Ambiwlans ac nid oedd angen yr hofrennydd. Mae hi bellach adref ac angen llawdriniaeth ar ei ffêr wythnos nesaf.

Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw gwasanaethau lleol a bydd cyfarfod pellach yn cael ei gynnal yn y Celtic Royal, 27 Ebrill am 5.30 yh i drafod symud lleoliadau Gwasanaeth Ambiwlans Awyr yn y Gogledd.