Stiwdio newydd ar Stryd Fawr

Mae Ty Architecture Cyf. wedi agor stiwdio newydd i roi cyngor pensaernïol yn dre

gan Elliw Llyr
image-4

Arwydd Ty Architecture ar y Stryd Fawr

Mae Ty Architecture yn disgrifio eu hunain fel practis Dylunio Pensaernïol wedi’i leoli yn Rhuthun a stiwdio newydd yng Nghaernarfon sy’n cynnig gwasanaethau lluniadu pensaernïol ar draws Gogledd Cymru. Maent yn bractis bach, ond profiadol, o bum aelod o staff ac yn gweithredu’n bennaf yn y sector dylunio preswyl gan gynnig gwasanaethau dylunio sy’n gysylltiedig ag estyniadau, adeiladau newydd, ac addasiadau beudai.

Yn ogystal, mae Ty Architecture yn darparu gwasanaethau dylunio a chynllunio yn ymwneud â’r sector Amaethyddol gyda blynyddoedd lawer o brofiad.

‘Gyda’n stiwdio yng nghanol tref Rhuthun wedi ei sefydlu ers pum mlynedd’ dywedodd Osian,un o Gyfarwyddwyr y cwmni, ’roeddem yn edrych i sefydlu stiwdio broffesiynol yng Ngwynedd, lle gall cleientiaid ddisgwyl yr un lefel o wasanaeth proffesiynol a dibynadwy’.

Ychwanegodd, ‘gyda phortffolio mawr o gleientiaid a phrosiectau yn ardal Gwynedd roedd agor stiwdio ddylunio Caernarfon yn gyfle ac yn llwyfan gwych i’r busnes weithio’n agosach hefo bobl leol. Mae ein stiwdio yng Nghaernarfon hefyd yn rhoi’r cyfle i ni ddarparu gofod gweithio proffesiynol yn nghanol y dref gan greu man cyswllt uniongyrchol â chleientiaid y dyfodol ar brosiectau newydd a chyffrous’.

Bydd y Cyfarwyddwyr a’r Dylunwyr Pensaernïol Osian Jones a Craig Jones yn gweithredu o’r stiwdio yn uniongyrchol drwy’r wythnos ac maent eisoes wedi dechrau’r broses o gynnig Ymgynghoriadau safle o gwmpas ardal Caernarfon ac yn edrych ymlaen at helpu mwy o bobl i wireddu eu breuddwydion,debyg i rhain welwch chi ar raglen Grand Designs.