Taith ddifyr ar gyrion Caernarfon

Taith diweddaraf Rhys Mwyn

gan Elliw Llyr
image-6

Criw hefo Rhys Mwyn 22 Ionawr

Mae taith ddiweddaraf Rhys Mwyn, sydd wedi ei chynnal ddwywaith bellach, yn cychwyn ger Lloyd George ar y Maes ac mynd a chi ar gyrion Caernarfon a dilyn dwy brif afon Gaernarfon. Cymrodd y daith tua thair awr a hanner gyda stop am rhywbeth i fwyta ac yfed ddim yn bell o’r cae lle ffilmiwyd C’mon Middfild.

Mae Rhys Mwyn yn cynnal taith arall ar 4ydd o Chwefror, byddwch angen sgidiau cerdded a dillad bob tywydd gan fod na dipyn o waith cerdded a llwybrau mwydlyd,ond byddwch yn siŵr o fwynhau. Disgrifiodd Rhys y daith fel ‘Dro bach o amgylch cyrion Caernarfon – lle mae na pethau diddorol bob amser ar gyrion trefi’.