Syniad newydd gan artist Jocelyn Roberts, drwy Galeri Life Full Colour i gymryd mantais o adeiladau, y Castell a’r natur gyfagos ar Afon Seiont i gael criw o artistiaid at ei gilydd. Artistiaid proffesiynol oedd rhai, eraill yn ei wneud fel hobi a rhai eraill oedd erioed di tynnu llun- wel, ddim ers bod yn yr ysgol, beth bynnag!
Daeth tua 10 o bobl at ei gilydd gan ddwad a’u nwyddau celf hefo nhw ac eraill yn mynd i siop leol i brynu ar y diwrnod. Roedd gan bawb rwydd hynt i fynd o gwmpas y lle ac i wneud unrhyw lun drwy unrhyw gyfrwng, fel y roeddynt eisiau. Cafwyd cyfle i ddewis cinio o un o nifer o fwytai, tafarndai neu gaffis yn ystod y dydd gyda phawb yn cwrdd yn Y Segontiwm ar ddiwedd y pnawn i ddangos eu gwaith. Dewisodd pawb cyfrwng a lleoliad gwahanol, ac er gwaethaf y gwynt, wnaeth daflu ambell i ganfas ar lawr -dywedwyd fod hyn wedi ychwanegu at y profiad!
Bwriad yw cynnal hyn unwaith bob tymor fel bod cyfle i weld y dref ar adegau gwahanol yn y flwyddyn. Bydd manylion y plein air nesaf i’w gweld ar gyfryngau cymdeithasol Life Full Colour.