
Maria, Helen, ac Elin, rhai o wirfoddolwyr 2022
Mae rhai wedi amcangyfrif bod 50,000 wedi dod draw i Ŵyl Fwyd Caernarfon y llynedd, ac mae hen ddisgwyl ymlaen at yr ŵyl eto leni.
Ond wrth i’r dyddiad agosáu, mae’r trefnwyr yn galw ar bobl leol i wirfoddoli dwy awr o’u hamser ar ddiwrnod yr ŵyl.
Mae’r ŵyl wedi cael ei chynnal bob blwyddyn (ddi-Gofid) ers 2016, ac mae’n cael ei threfnu’n gyfan gwbl gan bobol leol sy’n rhoi o’u hamser eu hunain.
13 Mai 2023 yw dyddiad yr ŵyl leni, ac mi ydan ni’n trio dod o hyd i unigolion lleol i wirfoddoli dwy awr o’u hamser ar ddiwrnod yr ŵyl.
Tydan ni ddim yn gofyn gormod o’n gwirfoddolwyr, a’ch prif ddyletswydd fyddai dosbarthu rhaglenni a chasglu cyfraniadau.
Rydan ni’n annog trigolion lleol sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i lenwi’r ffurflen hon, neu i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth ar post@gwylfwydcaernarfon.cymru.