Y frwydr i ddiogelu Swyddfa Bost Caernarfon

Mae pedwar gwleidydd wedi ymateb i gyhoeddiad y Swyddfa Bost

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
Picture1

Siân Gwenllian AS, Liz Saville Roberts AS, Cyng. Cai Larsen, a Llŷr Gruffydd AS.

Mae pedwar gwleidydd yng Ngwynedd wedi ysgrifennu at Swyddfa’r Post yn eu hannog i ailystyried cynlluniau i gau eu cangen yng Nghaernarfon. Mae Siân Gwenllian AS, Liz Saville Roberts AS, Llŷr Gruffydd AS a’r Cyng. Cai Larsen yn cynrychioli tref Caernarfon yn y Senedd, San Steffan, ac ar Gyngor Gwynedd, ac maent wedi ysgrifennu at Neil Brocklehurst, Prif Weithredwr dros dro Swyddfa’r Post i fynegi eu pryderon am effeithiau posibl cau’r gangen.

Mae’r llythyr a anfonwyd ar 13 Tachwedd yn dweud:

 

“Mae’n ddyletswydd ar Swyddfa’r Post i gynnig lefel o wasanaeth wyneb-yn-wyneb er mwyn cydymffurfio ag anghenion hygyrchedd trigolion. Mae gan Wynedd fel sir oedran cyfartalog uwch na Chymru gyfan, ac mae nifer o’n hetholwyr hŷn yn parhau heb fynediad i wasanaethau digidol. Yn ogystal â hynny, mae rhannau o Gaernarfon yn gyson ar frig y tabl o ran amddifadedd yng Ngwynedd yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD). Mae tlodi digidol yn broblem go iawn yn ein cymunedau, sy’n rhoi mwy o bwyslais ar yr angen am wasanaethau wyneb yn wyneb.

“Dylid nodi hefyd fod cangen Caernarfon yn gwasanaethu ardal ehangach, mwy gwledig na’r dref ei hun a gyda diffyg isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus yn broblem enbyd yn yr ardal hon, mae disgwyl i etholwyr deithio ymhellach i gael mynediad i wasanaethau yn annheg.

“Gadewch inni orffen drwy amlygu anghenion ieithyddol unigryw Caernarfon, anghenion nad ydynt o reidrwydd yn cael eu diwallu bob amser gan wasanaethau ar-lein neu wasanaethau mewn trefi cyfagos. Fel cymuned Gymraeg ei hiaith, mae derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng eu hiaith gyntaf yn hanfodol er mwyn cynnal ymddiriedaeth pobl leol yn Swyddfa’r Post.

“Mae canol tref Caernarfon, fel canol trefi ar draws y wlad, wedi wynebu cyfnod heriol yn y blynyddoedd diwethaf, sefyllfa sydd wedi gwaethygu yn sgil Covid-19 a’r argyfwng costau byw. Ofnwn y bydd cael gwared ar wasanaethau fel Swyddfa’r Post yn hoelen olaf yn arch ein trefi. Ar adeg pan ddylai Swyddfa’r Post fod yn ymdrechu i adfer ffydd y cyhoedd yn ei wasanaethau, mae’r bwriad hwn yn diystyru anghenion eich cwsmeriaid, ac rydym yn eich annog i ailfeddwl unrhyw gynlluniau i gau eich cangen yng Nghaernarfon.”

Dweud eich dweud