Bydd gŵyl gymunedol newydd, rhad ac am ddim, yn cael ei chynnal ym Mangor mis yma, gan ddod â pherfformiadau byw, gweithdai creadigol, stondinau bwyd a diod a llawer mwy i’r ddinas.
Mae Gŵyl Adda Fest yn ddigwyddiad awyr agored, sy’n cael ei gynnal ym Mangor ar 28 Medi. Nod yr ŵyl yw dathlu’r celfyddydau, diwylliant, iaith a cherddoriaeth, gan ddod â theuluoedd o bob oed at ei gilydd i fwynhau cyfres o berfformiadau cyffrous gan artistiaid Cymraeg. Yn ychwanegol, bydd y diwrnod yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol, gweithgareddau creadigol, a stondinau bwyd a diod.
Wedi’i threfnu gan y cwmni theatr Cymraeg, Frân Wen, bydd yr ŵyl hefyd yn set i ail ran perfformiad trioleg arloesol newydd, Olion. Yn seiliedig ar stori Arianrhod o’r Mabinogi, mae Olion yn rhoi gwedd fodern i’r chwedl. Bydd y perfformiad yn archwilio gwrthwynebiad Arianrhod i ofynion llym ei theulu, sy’n arwain at storm oruwchnaturiol ddinistriol sy’n suddo ei chaer i ddyfnderoedd y cefnfor.
Mae Olion yn cynnig profiad trochi i gynulleidfaoedd ac mae wedi’i rhannu’n dair rhan: sioeau theatr byw, perfformiadau safle-benodol, gan gynnwys Gŵyl Adda Fest, a ffilm fer i ddilyn. Yn dilyn y sioe matinee ddydd Sadwrn, bydd perfformiadau byw dros gymuned Bangor, gan gychwyn ar y Pier, trwy Hirael a gorffen yng Ngŵyl Adda Fest, lle bydd golygfeydd ychwanegol.
Mae Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig yn Frân Wen yn falch iawn o fod yn trefnu’r ŵyl, sy’n cyd-fynd ag Olion, dywedodd: “Rydym wrth ein boddau o fod yn gallu dod â chymuned Bangor at ei gilydd i fwynhau’r diwrnod llawn hwyl, a hefyd i ddathlu perfformiad Olion. Y digwyddiad hwn yw’r cyntaf o’i fath i ni, ac mae’n gyffrous iawn i gynnwys y gymuned a’u croesawu i weld y perfformiad yn eu hardal. Gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i ddod i fwynhau’r celfyddydau, yn enwedig yng Ngogledd Cymru.”
Mae Elis Pari, Cyfarwyddwr Cymunedol y cwmni hefyd yn falch iawn o weld yr ŵyl yn dod i Fangor. Meddai: “Bydd yr ŵyl yn canolbwyntio ar ddathlu’r celfyddydau, diwylliant a cherddoriaeth, ac rydyn ni’n gobeithio y gall llawer o deuluoedd gymryd rhan yn y gweithgareddau fydd yn canolbwyntio at hanes, diwylliant a chymuned yr iaith Gymraeg. Mae’r ŵyl ar gyfer cymuned Bangor, ond gall unrhyw un ddod draw i fwynhau’r diwrnod ac unrhyw ran o berfformiad Olion.”
Mae nifer o’r artistiaid sydd wedi cadarnhau ar gyfer yr ŵyl o ardal Bangor, ac yn cynnwys Batala Bangor, Band Pres Llareggub, Sister Wives, Crinc, a Francis Rees.
Am fwy o wybodaeth am Ŵyl Adda Fest a pherfformiadau Olion, ewch i Frân Wen | Olion (franwen.com). Bydd Olion yn cael ei berfformio yn Gymraeg ond bydd yn gyfle hefyd i ddysgwyr a siaradwyr newydd fwynhau’r cynhyrchiad.
Gwybodaeth bellach
- Tocynnau ar gael yn https://www.pontio.co.uk/online/article/24Olion