Noson Siopa Hwyr – Dolig Gwyrdd yn Warws Werdd

Gwnewch i’ch Nadolig sgleinio gyda anrhegion unigryw sy’n gofalu am ein planed ac eich pwrs!

gan Ceri Hughes
NDolig-Gwyrdd-Event-banner

Mae Warws Werdd yn gwahodd pawb i noson siopa hwyr Nadolig gynaliadwy ar nos Iau, Tachwedd 21ain, rhwng 4.00yp a 8.00yh. Bydd y noson arbennig hon yn cynnig cyfle i’r teulu i gyd fwynhau awyrgylch Nadoligaidd tra’n cefnogi syniadau gwyrdd ar gyfer y Nadolig!

Yn ystod y digwyddiad, bydd digon o ddillad ac ategolion Nadoligaidd, gan gynnwys opsiynau newydd ac ail-law ar gael. Mae gweithdy crefftau Nadolig i ysbrydoli creadigrwydd, perfformiad gan Gôr Lleisiau Llawen, ac ystod o nwyddau blasus gan Antur Waunfawr, gan gynnwys seidr a hamperi o jamiau a chutney!

I’r rhai sydd yn chwilio am anrhegion unigryw, bydd cyfle i brynu anrhegion personol wedi’u gwneud yn Warws Werdd. Bydd photobooth Nadoligaidd hefyd ar gael, ynghyd â chystadleuaeth ac raffl gyda gwobrau gwych.

Dewch draw i Warws Werdd i gael eich ysbrydoli gan syniadau anrhegion sy’n gofalu am ein planed ac yn cynnig gwerth arbennig. Nadolig gwyrdd, cynaliadwy, ac yn un i’w gofio!

📅 Pryd? Nos Iau, Tachwedd 21ain
⏰ Amser? 4.00yp – 8.00yh
📍 Lleoliad? Warws Werdd, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon LL55 2BD

Gwnewch i bob anrheg gyfrif y Nadolig hwn!