Caffi pop up yn agor yn Feed my Lambs

Bydd Caffi Tyddyn yn agor yn fuan ac yn cynnig bwyd cartref blasus

gan Elliw Llyr
image-2

Cacen Gaws

image-1

Tray bwyd plant

image-3

Sglodion,pys a cacen bysgod

Mae cwpwl, Elaine ac Andrew, yn agor pop up yn Feed my Lambs yn fuan fydd yn agored bob dydd Mercher a phenwythnosau. Ers adeg clo mae’r ddau wedi bod yn coginio bob math o gacennau a chinio dydd Sul i bobl maen nhw nabod a mae nhw eisiau parhau hefo eu diddordeb.

Mae tudalen Facebook Cegin Tyddyn wedi bod yn berwi o luniau bwydydd  mae nhw wedi bod yn ei drio a’i bwriad ydi gwneud nosweithiau thema, fel noson sglodion a physgodyn, cinio dydd Sul a bocs dwad dros gor-neud hi noson cynt!

Dywedodd Elaine ’da ni wedi bod eisiau dechrau rhyw fath o fusnes ers erioed ac eisiau agor caffi pop up yn gwneud prydau gwahanol’. Mae’r ddau hefo swyddi llawn amser ac am fod ar agor ar eu diwrnodau ffwrdd.

Mae’r cwpwl yn gwybod pwysigrwydd gallu darparu i bob math o ddewis, fel plant sydd ddim yn hoffi bwyd yn cyffwrdd bwyd arall ar blât ac felly wedi archebu ‘tray’s’ hefo llefydd gwahanol i ddal y bwyd. Bydd dewis llysiol ar gael hefyd yn ogystal â phwdinau.

Ewch ar dudalen Facebook Caffi’r Tyddyn am ddiweddariad pan fyddent yn agor.