Ken Owens, Cyn-gyfarwyddwr a chwaraewr CPD Caernarfon, wedi marw.

Mae CPD Tref Caernarfon wedi cyhoeddi bod Ken Owens, a fu’n gyfarwyddwr ac yn chwaraewr i’r tîm wedi marw.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Parhaodd Ken Owen yn un o gefnogwyr mwyaf brwd y clwb.

Mae’r cyhoeddiad ar wefan CPD Tref Caernarfon yn dweud;

“Gyda thristwch aruthrol mae’r clwb wedi clywed am farwolaeth drist Mr Ken Owens.

Roedd Ken yn gefnogwr gydol oes, yn ogystal â bod yn gyn-chwaraewr rhagorol ac yn gyfarwyddwr ar y clwb am nifer o flynyddoedd.

Roedd Ken yn ŵr bonheddig ac yn ddyn busnes uchel ei barch. Roedd yn gyfaill da i bawb yn yr Oval ers degawdau.

Byddwn yn cynnal munud o dawelwch i anrhydeddu ein cyfaill cyn ein gêm gartref nesaf, ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Ken yn y cyfnod anodd hwn.”