Tîm Criced Gogledd Cymru yn derbyn rhodd gan fusnes lleol

Watkin Property Ventures (WPV) yn noddi Tîm Criced Gogledd Cymru unwaith eto eleni

gan Erin Telford Jones

Chwaraewyr Tîm Siroedd Cenedlaethol (Gogledd)

Cyflwyno siec gan Glyn Watkin Jones, Cadeirydd WPV

Wrth i’r tymor criced ddirwyn i ben, roedd tîm Criced Siroedd Cenedlaethol Cymru (Gogledd) yn falch o groesawu’u prif noddwr, Watkin Property Ventures (WPV) i wylio’u gêm yn erbyn Northumberland yng Nghlwb Criced Bangor yn ddiweddar.

Sefydlwyd y tîm, sy’n cynnwys tîm hŷn a thîm dan 19, yn 2022, fel rhan o lwybr cenedlaethol Criced Cymru. Mae’r tîm yn cynrychioli sêr y gêm hamdden yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, sydd wedyn yn bwydo tîm dynion hŷn Cymru sy’n cystadlu yng ngemau Cymdeithas Criced Cenedlaethol y Siroedd (NCCA). Bwriad sefydlu yng Ngogledd Cymru oedd sicrhau cyfnod pontio rhwng criced y gynghrair a chriced sirol cenedlaethol, gan alluogi chwaraewyr i symud i griced lefel uwch a’r potensial o ddilyn gyrfa criced proffesiynol.

Ers 2022, mae chwech o Ogledd Cymru wedi cynrychioli tîm hŷn Cymru ac mae  ymrwymiad i fod yn fwy gweladwy yn y gogledd yn parhau wedi ymweliadau â Bangor yn 2022 (Cwpan T20 NCCA), Brymbo yn 2023 (Pencampwriaeth 3 Diwrnod NCCA) ac, yn fwy diweddar, Llanelwy yn 2024 (Cwpan T20 NCCA).

Mae’r gyfundrefn yn parhau i ddibynnu ar gefnogaeth fasnachol a nawdd allanol. Mae Watkin Property Ventures wedi bod yn un o brif noddwyr y tîm ers y cychwyn cyntaf, gan ddarparu cymorth sydd wedi cynorthwyo’n bennaf gyda chostau hyfforddi a rhaglenni gemau dros y tri tymor diwethaf.

Mewn ymateb i gefnogaeth WPV, dywedodd Matt Thompson, sy’n Bennaeth Llwybr Talent yn Criced Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i WPV am eu cefnogaeth barhaus. Er bod y rhaglen dim ond yn ei thrydydd tymor, mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn cael effaith bositif ar griced Gogledd Cymru. Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o chwaraewyr o’r rhanbarth yn rhoi eu henwau ymlaen i gystadlu mewn criced cynrychiadol uwch, ac yn gweld pobl ifanc yn cychwyn sefydlu eu hunain mewn criced cynghrair, sydd, yn ei dro, yn codi’r safon yn fwy eang. Ni fyddai’r cynnydd rydym wedi ei wneud wedi bod yn bosib heb gymorth WPV, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ein partneriaeth yn parhau am amser i ddod.”

Dywedodd Russel Penrhyn Jones, sylfaenydd a rheolwr cynllun Siroedd Cenedlaethol Cymru (Gogledd): “Mae’n anodd disgrifio lle bydden ni heb gefnogaeth WPV. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr ariannu gan Criced Cymru hefyd, gan ei fod wedi galluogi i ni adeiladu sail ar gyfer y rhaglen hon, ond rydyn ni wedi gallu adeiladu ar hwn yn llawer cynt, diolch i gefnogaeth WPV. Rydym ni eisiau creu gwaddol barhaus ar gyfer cricedwyr heddiw ac yfory yn y rhanbarth, ac er bod ffordd i fynd, rydyn ni wedi cael cychwyn cadarnhaol iawn.”

Mae Prif Weithredwr WPV, Mark Watkin-Jones, yn falch iawn o fod wedi cefnogi tîm Siroedd Cenedlaethol Cymru (Gogledd) am flwyddyn arall. Dywedodd: “Rydym yn gweld drosom ni ein hunain yr effaith y gall chwaraeon fel criced gael ar fywydau ac iechyd meddwl pobl, a dyma pam ein bod yn angerddol am ariannu prosiectau fel hyn. Rydym wrth ein boddau ein bod yn cefnogi’r eto eleni, ac yn gobeithio bod effaith ein cyfraniad yn sicrhau bod budd chwaraeon cymunedol, fel criced, yn parhau yng Ngogledd Cymru.”

Dweud eich dweud