Eleni, am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn mi fentrodd CFFI Caernarfon i lwyfan Eisteddfod Ffermwyr Ifanc, Eryri. Mi roedd hi mor braf gweld y clwb yn serenu ar y llwyfan a sawl aelod wedi cael llwyddiant arbennig o dda. Yn bendant mi roedd yr holl ymarferion wedi talu ar ei ganfed!
Cynhaliwyd yr Eisteddfod eleni yn neuadd goffa Criccieth ar y pedwerydd ar bymtheg o Hydref. Mi roedd hi wir yn ddiwrnod gwerth chweil,ag arbennig oedd gweld ein aelodau brwd yn cystadlu eleni. Mi gafon sawl llwyddiant gan gynnwys 3ydd yn yr ensemble lleisiol a phedwerydd yn y dawnsio hip hop/stryd. Mae genym sawl unawdydd dawnus yn ein clwb yn ogystal gyda Non Gwilym yn dod yn gyntaf yn yr unawd o sioe gerdd 17 oed neu iau. Yn yr adran ysgafn mi lwyddodd Neli Rhys i ddod yn ail yn y darn digri a phedwerydd yn y darn heb ei atalnodi. Mi roedd ein clwb hefyd wedi bod yn gweithio’n hynod o galed gan gystadlu yn y meim. Yna,mi gafodd Neli Rhys darian gan ddod yn ail yng nghystadleuaeth y gadair. Yn ogsytal mi gafwyd sawl unigolyn lwyddiant yn y gwaith cartref. Mi ddaeth Elin Brychan yn gyntaf yn y ffotograffiaeth, Neli Rhys yn gyntaf gyda llythyr i aelod seneddol a Begw Hughes yn ail gyda’r celf a chrefft..Ni allwn ddiolch digon i`n aelodau am roi cymaint o`u egni yn yr holl ymarferion. Mi roedd hi wir yn fraint cael bod yn rhan o un o ddigwyddiadau gorau y mudiad eleni gan obeithio gwneud hynny eto flwyddyn nesa a sawl blwyddyn i ddod. Rydym yn ffyddiog bydd Caernarfon yn parhau i droi`n eisteddfodwyr o fri!
Diolch mawr iawn i’r Pwyllgor am drefnu yr holl gystadleuthau,beirniaid a’r holl unigolion a oedd yn sicrhau bod y dydd yn mynd yn ei flaen yn esmwyth. Rydym yn gwerthfawrogi ymroddiad y Sir wrth gynnal diwrnod llawn chwerthin,canu a chystadlu brŵd!