Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024

Y diweddaraf o noson fawr y byd llyfrau

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Croeso i flog byw golwg360 o noson seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024, yn Galeri Caernarfon. Llyfr y Flwyddyn yw gwobr lenyddol genedlaethol Cymru, sydd yn dathlu doniau creadigol llenorion a beirdd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc – yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl a People’s Choice sy’n cael eu rhedeg gan golwg360 a Nation.Cymru. Llenyddiaeth Cymru sydd yn trefnu gwobrau Llyfr y Flwyddyn.

19:26

Rhiannon Marks, un o’r beirniaid y Rhestr Fer Gymraeg, yn camu ymlaen i gyhoeddi enillydd y categori Ffeithiol Greadigol. “Bu sawl gyfrol o fewn trwch blewyn o gyrraedd y Rhestr Fer” meddai, cyn cyflwyno’r tri llyfr sydd ar y Rhestr – Cranogwen, gan Jane Aaron, Y Delyn Aur gan Malachy Edwards, a Trothwy gan Iwan Rhys. 

19:22

Tudur Owen newydd gamu i’r llwyfan. Yn sefyll drws nesa i fwrdd ag arni yr holl dlysau arian a fydd yn cael eu rhoi yn nwylo’r enillwyr. Yn croesawu pawb i’r noson a dweud bod heno’n nodi dechrau Gwyl Arall. Mae yn rhoi anerchiad dwyieithog, ac yn Saesneg yn cyfeirio at y ffaith bod yna etholiad wedi ei galw heddiw – “who’d have thought?” meddai. “Mae ganddon ni noson hynod gyffrous o’n blaenau, gyfeillion.” Mae’n rhoi ychydig o gefndir i hanes y gwobrau. Cyfle “arbennig”, meddai, i ni gyd-ddathlu y llyfrau sydd ar y Rhestr Fer eleni. Mae’n egluro y bydd y beirniaid yn ein tywys yr enillwyr fesul categori, yna gwobr Barn y Bobl, cyn i ni glywed pa lyfr ym marn y beirniaid fydd wedi ei ddewis yn Llyfr y Flwyddyn, yn y ddwy iaith.   

19:15

Sgwrs-dros-ysgwydd gydag Aled Jones Williams, sydd ar y Rhestr Fer eto eleni am ei gyfrol o storïau byrion, Raffl. Gwestai ychydig yn anfoddog yn y fath sbloets o noson – “sa’n well gen i fod adra’, o beth fyrdd!” meddai, gyda gwên fawr. Pob lwc iddo fe a’r holl feirdd a llenorion o fri heno. 

18:55

Awduron a gwesteion

Pethe wedi prysuro wrth y bar. Awduron enwog yn pingo… i gyd yn eu dillad smart. Wrth y bar (ond nid yn y llun yma ysywaeth) mae Pennaeth Datblygu Cyhoeddi y Cyngor Llyfrau mewn sgwrs ddyfal gyda dau o’r beirniaid Cymraeg, Nici Beech a Tudur Dylan Jones, ynghyd â dau o awduron y Rhestr Fer Gymraeg, Daf James a Mari James

18:47

Y Rhestr Fer Saesneg

Noddir y Wobr Saesneg gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.

Y Wobr Farddoniaeth
 I Think We’re Alone Now, Abigail Parry (Bloodaxe Books)
 Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing)
 In Orbit, Glyn Edwards (Seren)

Gwobr Ffeithiol Greadigol
 Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)
 Birdsplaining: A Natural History, Jasmine Donahaye (New Welsh Rarebyte)
 Spring Rain, Marc Hamer (Harvill Secker)

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies
 Stray Dogs, Richard John Parfitt (Third Man Books)
 The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy (Doubleday)
 Neon Roses, Rachel Dawson (John Murray)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy
 Where the River Takes Us, Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books)
 Brilliant Black British History, Atinuke (Bloomsbury Children’s Books)
 Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)

Ar y panel beirniadu Saesneg eleni mae’r awdur, newyddiadurwr a chadeirydd PEN Cymru Dylan Moore; yr awdur a Chymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol Patrice Lawrence; y nofelydd, dramodydd a chyn-enillydd Gwobr Dylan Thomas Rachel Trezise; a’r bardd, nofelydd a chyn-gadeirydd Gwobr T.S. Eliot Pascale Petit.

18:39

Dyma Restr Fer Gymraeg eleni

Y Wobr Farddoniaeth
Mae Bywyd Yma, Guto Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)
Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Barddas)
Y Traeth o Dan y Stryd, Hywel Griffiths (Barddas)

Gwobr Ffeithiol Greadigol
Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
Y Delyn Aur, Malachy Owain Edwards (Gwasg y Bwthyn)
Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)

Gwobr Ffuglen Anfadwaith, Llŷr Titus (Y Lolfa)
 Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)
Raffl, Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy
Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)
Y Nendyrau, Seran Dolma (Gwasg y Bwthyn)
 Astronot yn yr Atig, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

 

Ar y panel beirniaid Cymraeg eleni mae’r bardd a’r awdur, Nici Beech; yr actor a’r awdur, Hanna Jarman; y bardd ac uwch-arholwr Llenyddiaeth CBAC, Tudur Dylan Jones; a’r awdur ac uwch-ddarlithydd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Rhiannon Marks.

18:34

Branwen Llewellyn, Arweinydd Cyfathrebu Llenyddiaeth Cymru

Sgidie blodeuog Branwen Llewellyn

Wele Branwen Llewellyn, Arweinydd Cyfathrebu Llenyddiaeth Cymru yn croesawu’r gwesteion i Galeri heno. Mae dros 50 o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y noson, ar ben tocynnau’r gwesteion. Mae yna gynnwrf o gwmpas y lle, ac esgidiau rhagorol…

18:27

Mae gan siop llyfrau Palas Print stondin yn y cyntedd yn cynnig yr holl lyfrau sydd ar y Rhestr Fer eleni

17:52

Dyma’r bar cysurus yn Galeri, yn disgwyl am y llenorion sychedig wedi’r seremoni – sy’n dechrau am 7pm heno.