Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024

Y diweddaraf o noson fawr y byd llyfrau

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Croeso i flog byw golwg360 o noson seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024, yn Galeri Caernarfon. Llyfr y Flwyddyn yw gwobr lenyddol genedlaethol Cymru, sydd yn dathlu doniau creadigol llenorion a beirdd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc – yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl a People’s Choice sy’n cael eu rhedeg gan golwg360 a Nation.Cymru. Llenyddiaeth Cymru sydd yn trefnu gwobrau Llyfr y Flwyddyn.

20:29

Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, yn dod i roi gair am Lyfr y Flwyddyn eleni. Mae yn dechrau wrth ddiolch i Tudur Owen am ei waith yn arwain y noson. Yn dweud bod y seremoni yn Galeri am y tro cyntaf ers degawd pan enillodd y diweddar Gareth F Williams am ei nofel fawr, Awst yn Anogia.

“Mae’n hyfryd bod mewn tref sy’n dangos cymaint o barch at awduron ac artistiaid. Fel y beirniaid, rydyn ni wedi mwynhau darllen eich cyfrolau chi … gobeithio eich bod chi’n teimlo’r cynhesrwydd o’ch cwmpas chi heno.” Diolch i’r gweisg am ddod yma heno i ddathlu gyda Llenyddiaeth Cymru. Hefyd yn diolch i’r noddwyr. Ac i golwg360 a nation.cymru am roi sylw i’r holl lyfrau ar y Rhestr Fer dros yr wythnosau diwethaf. 

20:24

A Boat..._quicksand cover

Jon Gower sy’n dod i’r llwyfan i gyflwyno gwobr The People’s Choice Award, ac ran Nation.cymru. Mi wnaeth y cyfnodolyn adolygu pob un o’r llyfrau – Cymraeg a Saesneg – ar eu gwefan. “You realise the vivality of publishing in Wales… shuring it all is talent, this cavalcade of voices.”

Yr enillydd yw In Orbit, Glyn Edwards (Seren). Eto bonllef o gymeradwyaeth i fardd poblogaidd. 

Mae Glyn Edwards, â’r dagrau yn ei fygwth, yn diolch i Nation.cymru am eu hadolygiad. “My writing took an enormous lull in university,” meddai, ond cafodd ei galonogi yn ddiolch i ddarlithwyr fel Jane Aaron, a Christopher Meredith ac eraill yn y Brifysgol De Cymru am ei helpu ar gwrs y Welsh Novel. Hefyd yn diolch i “passionate pupils and friends” ac “to everybody’s who’s cherished this book.” Ac i Arthur a Nicola “enrichments of my life.”

20:17

Tudur Owen yn gofyn i bawb gymeradwyo i holl enillwyr y categoriau unigol, cyn troi at gyflwyno’r ddwy wobr newydd. Cyfle i glywed barn y darllenwyr – Barn y Bobl a People’s Choice Award. 

Cadi Dafydd, isolygydd golwg360, sydd yn dod ymlaen i gyflwyno Gwobr Barn y Bobl. “Mae hon yn berthynas hirhoedlog ac rydyn ni’n falch o roi sylw i’r holl lyfrau ar y Rhestr Fer eleni.” 

“Mae hi’n gystadleuaeth agos iawn eleni, a dim ond dwy bleidlais sy’n gwahanu’r enillydd a’r sawl sydd yn dod yn ail,” meddai Cadi Dafydd.

Enillydd gwobr Barn y Bobol yw Trothwy gan Iwan Rhys. Mae’r llyfr yn sôn am ei fywyd gartref yng Nghaernarfon, yn symud i mewn gyda’i gymar a’i dau o blant, ac mae’r awdur wedi gofyn am ddwy eiliad i nol un o’r cymeriadau yn y llyfr a oedd wedi camiu allan o’r theatr “am bach o chill”. Llawer o chwerthin. 

Mae yn ddagreuol wrth ddiolch i’w wraig Manon. 

20:12

Pascale Petit yw’r beirniaid sy’n cyflwyno gwobr Barddoniaeth Saesneg. Ar y Rhestr Fer mae I Think We’re Alone Now, Abigail Parry (Bloodaxe Books), Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing) ac In Orbit, Glyn Edwards (Seren).

“It wasn’t easy to decide on a winner… but one book shone… for the world it creates… for a vivavious and dazzling collection”. 

Cowboy, Kandace Siobhan Walker yw’r enillydd. Wrth iddi ddweud enw’r enillydd mae yna ochenaid o fraw o’r gynulleidfa, a bonllef o gymeradwyaeth wrth i’r bardd gerdded i’r llwyfan. 

Y bardd yn diolch i bawb sydd wedi cefnogi hi ar y daith yn cyhoeddi’r llyfr, ac i’w ffrindiau a’i theulu, “especially my mum, who I heard earlier!”

20:07

Enillydd y Wobr Farddoniaeth yw Mymryn Rhyddid gan Gruffudd Owen. 

Daw’r bardd i’r llwyfan ac egluro pam ei fod wedi cynnig y gyfrol i Gyhoeddiadau Barddas. Daeth cerddi’r gyfrol ar ôl i’w deulu dysgu bod gan eu mab anghenion dysgu dwys. 

‘Yr wyf o hyd wrth fy nghyfrifiadur/ yn marw’n raddol o’m mymryn rhyddid,/ yn gwylio’r saga mewn galar segur…’ Dyma rai llinellau o’r gerdd ‘Haf 2020’, o’i gyfrol. 

Ei wraig yn methu a bod yno heno, oherwydd gofynion gofal. “Mae hi yn sicr yn haeddu ei mymryn rhyddid hefyd.”

20:04

Tudur Dylan Jones yw cyflwynydd y Wobr Farddoniaeth. Yn diolch am ei gyd-feirniaid am drafodaethau hir a buddiol ar y pedair categori. Gair yn fyr am y llyfrau a ddaeth i’r brig a llongyfarch y beirdd – Gruffudd Owen, Hywel Griffiths, a Guto Dafydd am gyrraedd y Rhestr Fer, mewn blwyddyn dda i farddoniaeth.

“Cyfrol yn profi bod yna gomediwr tan gamp ar waith yma,” meddai am gyfrol Mymryn Rhyddid. “Yn pendilio rhwng dau le, rhwng Caerdydd ei gartref newydd a Phen Llyn”. Mae Bywyd Yma gan Guto Dafydd – “y fan hyn a’r rŵan sydd ganddo fo… taith bersonol wefreiddiol.” Ac am Hywel Griffiths, y daeaegwr a’r gwyddonydd afon a’r bardd “mae o’n gwneud defnydd helaeth ar lif a dwr yn ei gerddi… ond yr hyn sy’n codi cerddi i safon uchel yw nad ydi’r delweddau yn dreuliedig.”

19:58

Rachel Trezise, mewn ffrog hardd goch, yn dod ymlaen i gyflwyno’r wobr Ffuglen Saesneg y Rhys Davies Trust. Neon Roses, The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, a Stray Dogs sydd yn y ras. “Picking one of these as a winner was not an easy 

Yr enillydd yw Unbroken Beauty of Rosalind Bone gan Ales McCarthy. Nid yw’r awdur yn gallu bod yn bresennol. Mae Tudur Owen yn siarad ychydig eiriau ar ei rhan. “Fate has decided to send me to bed with illnes rather than downing pints with you tonight”. 

19:54

Mari George yn diolch i Alaw Mai Edwards, golygydd y llyfr dan wasg Sebra, ac i eraill. Y nofel wedi ei chadw i fynd yn ystod y cyfnod clo. “Dw i ddim yn gwybod lle fydden i heb sgrifennu…” Ac mae hi’n cyflwyno’r wobr “i greadigrwydd.”

19:53

Y beirniad Nici Beech wedi dod i’r llwyfan i gyflwyno enillydd categori y wobr Ffuglen. Yn y ras mae Anfadwaith gan Llŷr Titus – sydd â chymeriad anneuaidd yn mynd i fyd tanddaearol… ac yn dilyn “dau yn mynd ar daith i ddatrys llofruddiaeth… cawn stori sy’n llawn cyffro ond eto a chyfleoedd i oedi a meddwl.” Gair am storiau Raffl “yn bleser llwyr i ddarllen…. bywydau ag ychydig o chwinc ynddyn nhw… yn berl o gyfrol.” Am nofel gyntaf Mari George (nofel gyntaf gwasgnod newydd Sebra o dan wasg Atebol) – “mae’r nofel yn llawn ffresni ond awdur aeddfed sydd wrth y llyw… taith lythrennol i Gwatemala… a thaith arall emosiynol ac arni y down i nabod Muriel yn well… llyfr hudolus sy’n darllen mor rhwydd.” 

Wedi trafodaeth amlwg o ddifyr – roedd hi’n amlwg bod un llyfr wedi gwneud argraff ar hi a’i chyd-feirniaid. 

Yr enillydd yw Sut i Ddofi Corryn  gan Mari George. 

 

19:48

Y beirniad Patrice Lawrence yn cyflwyno’r wobr Children and Young People yn Saesneg. Canmol llyfr Brilliant Black British HIstory gan Atinuke “a history nerd’s dream.” Skrimsli gan Nicola Davies “expanded my imagination in so many ways.” Where the Rivers Takes Us gan Leslie Parr – “tackles big subjects.”

Yr enillydd eleni yw llyfr Skrimsli gan Nicola Davies. Hi hefyd yn diolch i’r artist Jackie Morris am y gwaith celf fel y gwnaeth Tom Bullough am ei lyfr ef. Diolch hefyd i’r beirniad “you can’t believe what this means to me.”