Croeso i flog byw golwg360 o noson seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024, yn Galeri Caernarfon. Llyfr y Flwyddyn yw gwobr lenyddol genedlaethol Cymru, sydd yn dathlu doniau creadigol llenorion a beirdd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc – yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl a People’s Choice sy’n cael eu rhedeg gan golwg360 a Nation.Cymru. Llenyddiaeth Cymru sydd yn trefnu gwobrau Llyfr y Flwyddyn.
Pascale Petit yw’r beirniaid sy’n cyflwyno gwobr Barddoniaeth Saesneg. Ar y Rhestr Fer mae I Think We’re Alone Now, Abigail Parry (Bloodaxe Books), Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing) ac In Orbit, Glyn Edwards (Seren).
“It wasn’t easy to decide on a winner… but one book shone… for the world it creates… for a vivavious and dazzling collection”.
Cowboy, Kandace Siobhan Walker yw’r enillydd. Wrth iddi ddweud enw’r enillydd mae yna ochenaid o fraw o’r gynulleidfa, a bonllef o gymeradwyaeth wrth i’r bardd gerdded i’r llwyfan.
Y bardd yn diolch i bawb sydd wedi cefnogi hi ar y daith yn cyhoeddi’r llyfr, ac i’w ffrindiau a’i theulu, “especially my mum, who I heard earlier!”
Enillydd y Wobr Farddoniaeth yw Mymryn Rhyddid gan Gruffudd Owen.
Daw’r bardd i’r llwyfan ac egluro pam ei fod wedi cynnig y gyfrol i Gyhoeddiadau Barddas. Daeth cerddi’r gyfrol ar ôl i’w deulu dysgu bod gan eu mab anghenion dysgu dwys.
‘Yr wyf o hyd wrth fy nghyfrifiadur/ yn marw’n raddol o’m mymryn rhyddid,/ yn gwylio’r saga mewn galar segur…’ Dyma rai llinellau o’r gerdd ‘Haf 2020’, o’i gyfrol.
Ei wraig yn methu a bod yno heno, oherwydd gofynion gofal. “Mae hi yn sicr yn haeddu ei mymryn rhyddid hefyd.”
Tudur Dylan Jones yw cyflwynydd y Wobr Farddoniaeth. Yn diolch am ei gyd-feirniaid am drafodaethau hir a buddiol ar y pedair categori. Gair yn fyr am y llyfrau a ddaeth i’r brig a llongyfarch y beirdd – Gruffudd Owen, Hywel Griffiths, a Guto Dafydd am gyrraedd y Rhestr Fer, mewn blwyddyn dda i farddoniaeth.
“Cyfrol yn profi bod yna gomediwr tan gamp ar waith yma,” meddai am gyfrol Mymryn Rhyddid. “Yn pendilio rhwng dau le, rhwng Caerdydd ei gartref newydd a Phen Llyn”. Mae Bywyd Yma gan Guto Dafydd – “y fan hyn a’r rŵan sydd ganddo fo… taith bersonol wefreiddiol.” Ac am Hywel Griffiths, y daeaegwr a’r gwyddonydd afon a’r bardd “mae o’n gwneud defnydd helaeth ar lif a dwr yn ei gerddi… ond yr hyn sy’n codi cerddi i safon uchel yw nad ydi’r delweddau yn dreuliedig.”
Rachel Trezise, mewn ffrog hardd goch, yn dod ymlaen i gyflwyno’r wobr Ffuglen Saesneg y Rhys Davies Trust. Neon Roses, The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, a Stray Dogs sydd yn y ras. “Picking one of these as a winner was not an easy
Yr enillydd yw Unbroken Beauty of Rosalind Bone gan Ales McCarthy. Nid yw’r awdur yn gallu bod yn bresennol. Mae Tudur Owen yn siarad ychydig eiriau ar ei rhan. “Fate has decided to send me to bed with illnes rather than downing pints with you tonight”.
Mari George yn diolch i Alaw Mai Edwards, golygydd y llyfr dan wasg Sebra, ac i eraill. Y nofel wedi ei chadw i fynd yn ystod y cyfnod clo. “Dw i ddim yn gwybod lle fydden i heb sgrifennu…” Ac mae hi’n cyflwyno’r wobr “i greadigrwydd.”
Y beirniad Nici Beech wedi dod i’r llwyfan i gyflwyno enillydd categori y wobr Ffuglen. Yn y ras mae Anfadwaith gan Llŷr Titus – sydd â chymeriad anneuaidd yn mynd i fyd tanddaearol… ac yn dilyn “dau yn mynd ar daith i ddatrys llofruddiaeth… cawn stori sy’n llawn cyffro ond eto a chyfleoedd i oedi a meddwl.” Gair am storiau Raffl “yn bleser llwyr i ddarllen…. bywydau ag ychydig o chwinc ynddyn nhw… yn berl o gyfrol.” Am nofel gyntaf Mari George (nofel gyntaf gwasgnod newydd Sebra o dan wasg Atebol) – “mae’r nofel yn llawn ffresni ond awdur aeddfed sydd wrth y llyw… taith lythrennol i Gwatemala… a thaith arall emosiynol ac arni y down i nabod Muriel yn well… llyfr hudolus sy’n darllen mor rhwydd.”
Wedi trafodaeth amlwg o ddifyr – roedd hi’n amlwg bod un llyfr wedi gwneud argraff ar hi a’i chyd-feirniaid.
Yr enillydd yw Sut i Ddofi Corryn gan Mari George.
Y beirniad Patrice Lawrence yn cyflwyno’r wobr Children and Young People yn Saesneg. Canmol llyfr Brilliant Black British HIstory gan Atinuke “a history nerd’s dream.” Skrimsli gan Nicola Davies “expanded my imagination in so many ways.” Where the Rivers Takes Us gan Leslie Parr – “tackles big subjects.”
Yr enillydd eleni yw llyfr Skrimsli gan Nicola Davies. Hi hefyd yn diolch i’r artist Jackie Morris am y gwaith celf fel y gwnaeth Tom Bullough am ei lyfr ef. Diolch hefyd i’r beirniad “you can’t believe what this means to me.”
Hanna Jarman sydd yn cyflwyno’r Wobr Plant a Phobol Ifanc. Yn dweud gair yr un am y tair cyfrol: Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa), Y Nendyrau, Seran Dolma (Gwasg y Bwthyn), ac Astronot yn yr Atig, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa).
Enillydd y categori ydi’r “nofel hollol wych” – Jac a’r Angel gan Daf James.
Yr awdur yn diolch i wasg y Lolfa, a Bethan Mai darlunydd y clawr a’r lluniau y tu mewn, ac i’w chwaer “am wneud fi deimlo bod fy Nghymraeg i ddigon da…. ac i fy ngwr, ac i fy mhlant i … mae fy ngwaith i fel arfer yn llawn secs a drygs a rocarol ac ro’n i’n meddwl bod rhaid i mi roi rhywbeth iddyn nhw. Mae yn talu teyrnged i lenorion yr oedd e’n eu darllen pan oedd yn iau – Gwenno Hywyn Irma Chilton ac eraill. “Felly dw i eisiau cyflwyno hwn i’r cewri aeth o fy mlaen i.”
Dylan Moore yn dod ymlaen i gyflwyno gwobr ‘Creative Non-Fiction’ Saesneg. Yn y ras mae Spring Rain, Marc Hamer, Birdsplaining gan Jasmine Donahaye, a Sarn Helen gan Tom Bullough gan wasg Granta Publications.
A’r enillydd yw Sarn Helen. Daw’r awdur i’r llwyfan. “More than anything I’ve written before, this is a collaboration… with scientics, farmers whose voices are there on the pages… it’s really an honour to receive this. Diolch eto.”
“Rhaid llongyfarch yr awduron i gyd ar y gamp o gyhoeddi eu llyfrau sy’n ffrwyth blynyddoedd o lafur,” meddai Rhiannon Marks. Yna mae hi yn cyhoeddi mai enillydd y categori Ffeithiol Greadigol yw Cranogwen..
Mae Jane Aaron yn rhoi ei diolchiadau, gan gynnwys artist clawr y llyfr, Meinir Mathias gan ddweud bod rhai pobol wedi prynu’r llyfr er mwyn cael y llun ar y clawr. Mae hi’n diolch i’r criw yn Llangrannog am osod y cerflun o Cranogwen. “Allech chi ddim gael ffordd well i hybu llyfr.” Ond mae’r prif ddiolch, meddai, “i Cranogwen ei hun… hi wnaeth fyw y bywyd hynod o arloesol y mae ei fanylion yn y llyfr. Mae hwn i Cranogwen.”