Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024

Y diweddaraf o noson fawr y byd llyfrau

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Croeso i flog byw golwg360 o noson seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024, yn Galeri Caernarfon. Llyfr y Flwyddyn yw gwobr lenyddol genedlaethol Cymru, sydd yn dathlu doniau creadigol llenorion a beirdd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc – yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl a People’s Choice sy’n cael eu rhedeg gan golwg360 a Nation.Cymru. Llenyddiaeth Cymru sydd yn trefnu gwobrau Llyfr y Flwyddyn.

20:43

Pascale Petit sy’n cyflwyno prif wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn. Dweud bod llawer o lyfrau roedd y beirniaid yn eu caru ddim wedi cyrraedd y Rhestr Fer. Ond roedd un llyfr yn codi ei ysgwydd yn uwch na’r lleill, “carrying it beyond the prize, to the realm of a true classic.” 

Enillydd y brif wobr Saesneg yw Sarn Helen gan Tom Bullough.

“I’m going to treasure this for at least the next 12 hours,” meddai gan dadngos y tlws arian. Mae ei ferch ym mlwyddyn 7 yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn bownd o gipio’r wobr cyn gynted ag y bydd e’n cyrraedd gartre i’w ddangos i’w ffrindiau, felly mae am afael yn sownd yn y wobr am nawr. 

Gair ganddo am y llyfr a’i bwysigrwydd. Y thema ganolog yw argyfwng newid hinsawdd. “It’s a consequences of our choices and the way we choose to live, a cultural problem, ultimately not a scientific problem. It is the greatest challenge that we face today, it is our reality…. what do we do with that as writers? … Writers communicate, and perceive as honestly as we can… If we are to communicate honestly… we have to find ways to find the climate emergency at the heart of our work.”

Dweud bod dyletswydd diwylliannol gan bawb yn y theatr. “We have to be having these discussions.” Yn falch bod Sarn Helen wedi cael ei gydnabod heddiw. “It’s a great road… and it’s about this issue, so diolch o galon.”

 

20:34

Nici Beech yn camu nôl i’r llwyfan i gyflwyno’r brif wobr Llyfr y Flwyddyn. Ac yn cyhoeddi mai Llyfr y Flwyddyn yw Sut i Ddofi Corryn gan Mari George. Dyma sgŵp i wasg fach newydd Sebra, gyda’u llyfr cyntaf erioed. A dyma nofel gyntaf yr awdur i oedolion – mae hi’n fardd adnabyddus, ac wedi addasu llyfrau. 

Araith syml iawn gan Mari, yn dweud nad oedd hi yn disgwyl hyn, fel nad oedd hi’n disgwyl ennill y categori Ffuglen. Yn diolch i’w gwr – “dw i’n gwybod fy mod i’n waith caled,” meddai – a’i theulu i gyd, y wasg ac eraill.

20:30

Leusa Llywelyn yn cyfeirio at y toriadau ariannol i gyrff celfyddydol Cymru eleni ac yn gobeithio y bydd y seremoni yn annog pobol i gefnogi siopau llyfrau Cymraeg a’r byd celfyddydau. 

20:29

Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, yn dod i roi gair am Lyfr y Flwyddyn eleni. Mae yn dechrau wrth ddiolch i Tudur Owen am ei waith yn arwain y noson. Yn dweud bod y seremoni yn Galeri am y tro cyntaf ers degawd pan enillodd y diweddar Gareth F Williams am ei nofel fawr, Awst yn Anogia.

“Mae’n hyfryd bod mewn tref sy’n dangos cymaint o barch at awduron ac artistiaid. Fel y beirniaid, rydyn ni wedi mwynhau darllen eich cyfrolau chi … gobeithio eich bod chi’n teimlo’r cynhesrwydd o’ch cwmpas chi heno.” Diolch i’r gweisg am ddod yma heno i ddathlu gyda Llenyddiaeth Cymru. Hefyd yn diolch i’r noddwyr. Ac i golwg360 a nation.cymru am roi sylw i’r holl lyfrau ar y Rhestr Fer dros yr wythnosau diwethaf. 

20:24

A Boat..._quicksand cover

Jon Gower sy’n dod i’r llwyfan i gyflwyno gwobr The People’s Choice Award, ac ran Nation.cymru. Mi wnaeth y cyfnodolyn adolygu pob un o’r llyfrau – Cymraeg a Saesneg – ar eu gwefan. “You realise the vivality of publishing in Wales… shuring it all is talent, this cavalcade of voices.”

Yr enillydd yw In Orbit, Glyn Edwards (Seren). Eto bonllef o gymeradwyaeth i fardd poblogaidd. 

Mae Glyn Edwards, â’r dagrau yn ei fygwth, yn diolch i Nation.cymru am eu hadolygiad. “My writing took an enormous lull in university,” meddai, ond cafodd ei galonogi yn ddiolch i ddarlithwyr fel Jane Aaron, a Christopher Meredith ac eraill yn y Brifysgol De Cymru am ei helpu ar gwrs y Welsh Novel. Hefyd yn diolch i “passionate pupils and friends” ac “to everybody’s who’s cherished this book.” Ac i Arthur a Nicola “enrichments of my life.”

20:17

Tudur Owen yn gofyn i bawb gymeradwyo i holl enillwyr y categoriau unigol, cyn troi at gyflwyno’r ddwy wobr newydd. Cyfle i glywed barn y darllenwyr – Barn y Bobl a People’s Choice Award. 

Cadi Dafydd, isolygydd golwg360, sydd yn dod ymlaen i gyflwyno Gwobr Barn y Bobl. “Mae hon yn berthynas hirhoedlog ac rydyn ni’n falch o roi sylw i’r holl lyfrau ar y Rhestr Fer eleni.” 

“Mae hi’n gystadleuaeth agos iawn eleni, a dim ond dwy bleidlais sy’n gwahanu’r enillydd a’r sawl sydd yn dod yn ail,” meddai Cadi Dafydd.

Enillydd gwobr Barn y Bobol yw Trothwy gan Iwan Rhys. Mae’r llyfr yn sôn am ei fywyd gartref yng Nghaernarfon, yn symud i mewn gyda’i gymar a’i dau o blant, ac mae’r awdur wedi gofyn am ddwy eiliad i nol un o’r cymeriadau yn y llyfr a oedd wedi camiu allan o’r theatr “am bach o chill”. Llawer o chwerthin. 

Mae yn ddagreuol wrth ddiolch i’w wraig Manon. 

20:12

Pascale Petit yw’r beirniaid sy’n cyflwyno gwobr Barddoniaeth Saesneg. Ar y Rhestr Fer mae I Think We’re Alone Now, Abigail Parry (Bloodaxe Books), Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing) ac In Orbit, Glyn Edwards (Seren).

“It wasn’t easy to decide on a winner… but one book shone… for the world it creates… for a vivavious and dazzling collection”. 

Cowboy, Kandace Siobhan Walker yw’r enillydd. Wrth iddi ddweud enw’r enillydd mae yna ochenaid o fraw o’r gynulleidfa, a bonllef o gymeradwyaeth wrth i’r bardd gerdded i’r llwyfan. 

Y bardd yn diolch i bawb sydd wedi cefnogi hi ar y daith yn cyhoeddi’r llyfr, ac i’w ffrindiau a’i theulu, “especially my mum, who I heard earlier!”

20:07

Enillydd y Wobr Farddoniaeth yw Mymryn Rhyddid gan Gruffudd Owen. 

Daw’r bardd i’r llwyfan ac egluro pam ei fod wedi cynnig y gyfrol i Gyhoeddiadau Barddas. Daeth cerddi’r gyfrol ar ôl i’w deulu dysgu bod gan eu mab anghenion dysgu dwys. 

‘Yr wyf o hyd wrth fy nghyfrifiadur/ yn marw’n raddol o’m mymryn rhyddid,/ yn gwylio’r saga mewn galar segur…’ Dyma rai llinellau o’r gerdd ‘Haf 2020’, o’i gyfrol. 

Ei wraig yn methu a bod yno heno, oherwydd gofynion gofal. “Mae hi yn sicr yn haeddu ei mymryn rhyddid hefyd.”

20:04

Tudur Dylan Jones yw cyflwynydd y Wobr Farddoniaeth. Yn diolch am ei gyd-feirniaid am drafodaethau hir a buddiol ar y pedair categori. Gair yn fyr am y llyfrau a ddaeth i’r brig a llongyfarch y beirdd – Gruffudd Owen, Hywel Griffiths, a Guto Dafydd am gyrraedd y Rhestr Fer, mewn blwyddyn dda i farddoniaeth.

“Cyfrol yn profi bod yna gomediwr tan gamp ar waith yma,” meddai am gyfrol Mymryn Rhyddid. “Yn pendilio rhwng dau le, rhwng Caerdydd ei gartref newydd a Phen Llyn”. Mae Bywyd Yma gan Guto Dafydd – “y fan hyn a’r rŵan sydd ganddo fo… taith bersonol wefreiddiol.” Ac am Hywel Griffiths, y daeaegwr a’r gwyddonydd afon a’r bardd “mae o’n gwneud defnydd helaeth ar lif a dwr yn ei gerddi… ond yr hyn sy’n codi cerddi i safon uchel yw nad ydi’r delweddau yn dreuliedig.”

19:58

Rachel Trezise, mewn ffrog hardd goch, yn dod ymlaen i gyflwyno’r wobr Ffuglen Saesneg y Rhys Davies Trust. Neon Roses, The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, a Stray Dogs sydd yn y ras. “Picking one of these as a winner was not an easy 

Yr enillydd yw Unbroken Beauty of Rosalind Bone gan Ales McCarthy. Nid yw’r awdur yn gallu bod yn bresennol. Mae Tudur Owen yn siarad ychydig eiriau ar ei rhan. “Fate has decided to send me to bed with illnes rather than downing pints with you tonight”.