Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024

Y diweddaraf o noson fawr y byd llyfrau

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Croeso i flog byw golwg360 o noson seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024, yn Galeri Caernarfon. Llyfr y Flwyddyn yw gwobr lenyddol genedlaethol Cymru, sydd yn dathlu doniau creadigol llenorion a beirdd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc – yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl a People’s Choice sy’n cael eu rhedeg gan golwg360 a Nation.Cymru. Llenyddiaeth Cymru sydd yn trefnu gwobrau Llyfr y Flwyddyn.

18:39

Dyma Restr Fer Gymraeg eleni

Y Wobr Farddoniaeth
Mae Bywyd Yma, Guto Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)
Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Barddas)
Y Traeth o Dan y Stryd, Hywel Griffiths (Barddas)

Gwobr Ffeithiol Greadigol
Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
Y Delyn Aur, Malachy Owain Edwards (Gwasg y Bwthyn)
Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)

Gwobr Ffuglen Anfadwaith, Llŷr Titus (Y Lolfa)
 Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)
Raffl, Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy
Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)
Y Nendyrau, Seran Dolma (Gwasg y Bwthyn)
 Astronot yn yr Atig, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

 

Ar y panel beirniaid Cymraeg eleni mae’r bardd a’r awdur, Nici Beech; yr actor a’r awdur, Hanna Jarman; y bardd ac uwch-arholwr Llenyddiaeth CBAC, Tudur Dylan Jones; a’r awdur ac uwch-ddarlithydd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Rhiannon Marks.

18:34

Branwen Llewellyn, Arweinydd Cyfathrebu Llenyddiaeth Cymru

Sgidie blodeuog Branwen Llewellyn

Wele Branwen Llewellyn, Arweinydd Cyfathrebu Llenyddiaeth Cymru yn croesawu’r gwesteion i Galeri heno. Mae dros 50 o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y noson, ar ben tocynnau’r gwesteion. Mae yna gynnwrf o gwmpas y lle, ac esgidiau rhagorol…

18:27

Mae gan siop llyfrau Palas Print stondin yn y cyntedd yn cynnig yr holl lyfrau sydd ar y Rhestr Fer eleni

17:52

Dyma’r bar cysurus yn Galeri, yn disgwyl am y llenorion sychedig wedi’r seremoni – sy’n dechrau am 7pm heno.