Troi gwastraff yn gyfle

Cyfle i fusnesau a sefydliadau yng Ngwynedd

gan Elliw Jones

Smiling graphic technology expert standing at printing shop and mounting silkscreen printing plate on carousel manual printing machine. Professional graphic worker operating silkscreen printing press.

Mae busnesau a sefydliadau yng Ngwynedd wedi cael eu gwahodd i wneud cais am grantiau o hyd at £30,000 i ariannu prosiectau economi gylchol arloesol. Mae ceisiadau ar agor tan 13 o Ionawr, a bydd cyllid ar gael i brosiectau gall leihau gwastraff drwy fynd y tu hwnt i ailgylchu arferol. Y gobaith ydy, byddai hyn –  yn hyrwyddo diwylliant o ailddefnyddio ac atgyweirio eitemau bob dydd.

Mewn menter sy’n cael ei reoli gan Menter Môn, y nod yw datblygu’r economi gylchol yng Ngwynedd, gan gefnogi busnesau a sefydliadau i ystyried ffyrdd newydd o gynyddu gwerth eitem neu wasanaeth. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan o’r ymgyrch i annog arloesedd i greu dyfodol carbon isel fwy gwyrdd.

Mae cyllid o hyd at £30,000 ar gael ar gyfer prosiectau i brynu offer neu i ddatblygu mentrau tymor hir. Mae Menter Môn hefyd yn awyddus i bwysleisio bod cynghorwyr wrth law i helpu gyda cheisiadau ac i weithredu’r prosiectau dros y tymor hir.

Elen Parry yw rheolwr prosiect Cylchol Menter Môn, ac mae’n annog busnesau a grwpiau i wneud y mwyaf o’r cyfle hwn. Dywedodd: “Mae posib defnyddio’r grant i ysgogi arloesedd a thwf wrth i ni groesawu egwyddorion yr economi gylchol. Trwy ailfeddwl sut rydym yn defnyddio adnoddau drwy leihau gwastraff, ailddefnyddio deunyddiau, ac ail-bwrpasu cynhyrchion, gallwn greu model busnes mwy cynaliadwy sydd o fudd i’r amgylchedd yn ogystal â’r economi leol. Mae’r cyllid hwn hefyd yn ychwanegu gwerth i’r rhwydwaith o ofodau gwneud FFIWS sydd wedi’u lleoli ar draws Gwynedd, gan ddarparu cyfleoedd i arallgyfeirio eu defnydd a dod â phobl a busnesau i fannau creadigol.

Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer mentrau cymunedol, sefydliadau dielw yn ogystal â busnesau sydd am symud tuag at arferion cynaliadwy.

Ychwanegodd Elen: “Gall y cyllid ddarparu cymorth ariannol i droi syniadau newydd yn weithredoedd, gan alluogi busnesau a grwpiau eraill i fuddsoddi mewn prosesau, technolegau a gwasanaethau sy’n blaenoriaethu cynaliadwyedd. P’un a ydych chi’n lansio menter newydd neu’n ceisio tyfu prosiect sy’n bodoli eisoes, gall y grant hwn fod y cam cyntaf tuag at greu economi fwy effeithlon o ddefnyddio adnoddau.“

Gyda’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn prysur agosáu – gall busnesau a grwpiau sydd â diddordeb ymweld â  https://www.mentermon.com/cylchol/ neu cysylltu â cylchol@mentermon.com  am wybodaeth bellach.  Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno eu cais cyn 13 Ionawr, ond, mae tîm Menter Môn ar gael i gefnogi ymgeiswyr unigol. Mae’r tîm yn annog ymgeiswyr sy’n ystyried ymgeisio i gyflwyno datganiad o ddiddordeb drwy’r wefan gyda throsolwg cryno o’r prosiect cyn y dyddiad cau. Ar ôl hyn, bydd tîm y prosiect yn cysylltu ac yn darparu cefnogaeth gyda chais llawn.

Dweud eich dweud