Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Beics Antur Bikes yng Nghaernarfon, rydym yn ffodus iawn wedi cael cyfle i gynnig sesiynau beicio i bobol ifanc yng Nghaernarfon bob dydd Gwener rhwng 2-4yp.
Mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau beicio gyda staff profiadol a does dim angen dod a beic efo chi gan fod rhai ar gael i’w benthyg. Cyn dechrau, byddwch yn cael canllawiau diogelwch cyn mentro ar y beic.
Mae croeso i bawb o bob gallu ymuno a ni. Os hoffwch ymuno â ni Dydd Gwener yma, dewch i Bont y Bridd erbyn 1:45yp. Yna, bydd staff yn eich arwain i Beics Antur.