Gwirfoddolwyr Caernarfon yn Oriel y Senedd

Mae gwirfoddolwyr cynllun Porthi Pawb Caernarfon wedi ymddangos yn Oriel ‘Hyrwyddwyr’ y Senedd.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Enwebwyd y cynllun gan yr Aelod o’r Senedd lleol, Siân Gwenllian.

Gwahoddwyd Aelodau o’r Senedd i enwebu hyd at dri o ‘hyrwyddwr’ yn eu hetholaethau i fod yn rhan o’r oriel. Mae’r portreadau yn ymddangos yn ddyddiol ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Senedd a’r Pierhead rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020.

Prosiect coginio sy’n dosbarthu prydau poeth i unigolion bregus, yr henoed a phlant yng Nghaernarfon yw Porthi Pawb.

Mae’r prosiect yn defnyddio cyfraniadau bwyd gan fusnesau lleol, ac erbyn hyn mae 14,000 o brydau wedi eu dosbarthu. O dan yr enw Porthi Plantos dechreuodd y criw ddarparu prydau ar gyfer plant yn ystod gwyliau’r ysgol hefyd.

Yn ddiweddar, camodd y criw i’r adwy unwaith yn rhagor, drwy agor banc dillad i blant yn yr Institiwt, Caernarfon.

Er gorfod gohirio Gŵyl Fwyd Caernarfon 2020 tan 2021 am resymau amlwg, bu aelodau’r pwyllgor yn weithgar ym mhrosiect Porthi Pawb eleni. Yr ŵyl sydd yn gweinyddu cyllid y cynllun hefyd.

Dywedodd Siân Gwenllian AS, yr Aelod o’r Senedd lleol oedd yn gyfrifol am enwebu’r cynllun;

“Rwy’n eithriadol o falch o gael y cyfle i enwebu’r criw gweithgar hwn, sydd wedi camu i’r adwy mewn cyfnod anodd.

“Gwn fod y cynlluniau hyn wedi bod yn achubiaeth i lawer o’n hetholwyr mwyaf bregus, yn ogystal â’r rhai sydd wedi bod yn ymneilltuo am resymau iechyd, a’r rhai sydd, o bosib wedi cael trafferthion ariannol oherwydd y pandemig.

“Mae’r mentrau cymunedol hyn wedi cael eu sefydlu ar draws yr etholaeth fel ymateb tosturiol a gofalgar i’r pandemig, ac mae wedi codi calon gweld pobl leol yn dod at ei gilydd i gefnogi’r gymuned!”