Mae YesCymru, sy’n eu galw eu hunain yn ‘ymgyrch amhleidiol’ dros Gymru annibynnol wedi cyrraedd 16,000 o aelodau, ar ôl ennill 6 mil o aelodau mewn ychydig dros fis.
Lansiwyd yr ymgyrch dros Gymru annibynnol yn swyddogol yn 2016. Dyblodd yr aelodaeth o 2,500 i 5,000 dros 2 fis yn unig yng Ngwanwyn 2020.
Ar 31 Hydref, cyhoeddodd YesCymru bod eu haelodaeth wedi cyrraedd 9,000, cyn i’r mudiad fynd ymlaen i ennill mil o aelodau mewn diwrnod yn unig.
Roedd arolygon barn yn 2014 yn awgrymu bod cefnogaeth i annibyniaeth ar oddeutu 14% o boblogaeth y wlad. Ond mae arolwg barn diweddar ar annibyniaeth i Gymru, a gynhaliwyd ym mis Medi, yn dangos bod 32% o blaid annibyniaeth, ag eithrio’r rhai o ddywedodd ‘ddim yn gwybod’.
Mae’r mudiad wedi cynnal gorymdeithiau yng Nghaerdydd, Caernarfon, a Merthyr Tudful, ac roedd bwriad cynnal gorymdeithiau yn Wrecsam, Tredegar ac Abertawe, cyn gorfod gohirio oherwydd Covid-19.
Yn wreiddiol roedd y mudiad wedi gosod targed o 10,000 o aelodau cyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Gwion Hallam, sy’n weithgar gyda changen YesCymru yng Nghaernarfon;
“Mae’r twf mewn aelodaeth yn drawiadol ar lefel leol hefyd fan hyn yn ardal Caernarfon.
Yn ôl ym mis Chwefror, cyn cychwyn y cyfnod clo, mi oedd yna ychydig dros 300 o bobl yn derbyn ebyst YesCaernarfon.
Heddiw mae yna dros 1300 yn eu derbyn!”
Gofynnodd Caernarfon360 iddo beth oedd i gyfrif am y twf diweddar;
“Y diffyg arweiniad o San Steffan? Ie’n rhannol. Agwedd Llundain a Lloegr yn gyntaf llywodraeth San Steffan? Ie, eto’n bendant. Senedd Cymru’n dangos fod modd gweithredu’n annibynnol gan roi mwy o degwch a chydraddoldeb i Gymru. Ie, dyna reswm rhannol arall hefyd.
Ond un peth arall – nad yw wedi cael ei drafod cymaint – yw sut y mae’r cyfnod yma wedi’n gorfodi i ail feddwl am y pethau sydd wir yn bwysig i ni?
Wrth boeni am y rhai agosaf atom, wrth dreulio mwy o amser yn ein milltiroedd sgwar a gweld busnesau a mentrau lleol yn brwydro i allu goroesi, ydi hi’n bosib ein bod ni eto’n dod i weld pa mor hanfodol yw ein cymunedau?
Gwlad o gymuedau yw Cymru. Dyna ei chryfder. Dyna ei chalon. Yes Cymru. Yes Cymuned.
Mae ymuno â YesCymru yn ffordd o frwydro dros ei chymunedau hefyd.”