Apêl Bocs Rhoddion

I wneud Nadolig ychydig fwy disglair

Ceri Angharad Hughes (ACGM)
gan Ceri Angharad Hughes (ACGM)

Helpwch ni i wneud y Nadolig hwn yn fwy disglair a chefnogwch ein Apêl Bocs Rhoddion. Dyna yw neges flwyddyn Age Cymru Gwynedd a Môn .

Rydym ni’n gofyn i chi lenwi bocs esgidiau, wedi’u lapio, gydag anrhegion, i helpu gwneud y Nadolig hwn ychydig yn hapusach.

Gall y Nadolig fod yn amser unig i lawer o bobl hŷn nad oes ganddynt deulu agos i ymweld â nhw dros yr ŵyl. Ein gobaith yw cael anrheg i’w agor a allai wneud gwahaniaeth iddynt. Bydd eich bocs rhoddion yn cael eu danfon i’n cleientiaid sy’n byw yn lleol, ac yn derbyn gwasanaethau gennym ni.

Ein pwynt gollwng lleol yw Age Cymru Gwynedd a Môn, Y Cartref, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd LL54 7UW (Dydd Llun- Dydd Gwener 10y.b-3y.h ac i’n cyrraedd dim hwyrach na Dydd Gwener 17eg Rhagfyr 2021)

Helpwch ni i wneud y Nadolig hwn ychydig yn fwy arbennig drwy gefnogi ein Apêl Bocs Rhoddion